'Newid agwedd tuag at bobl ag anableddau mewn perthynas'

  • Cyhoeddwyd
Mae Alison Williams a Michael Gallagher wedi bod mewn perthynas ers 12 mlynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alison Williams a Michael Gallagher wedi bod mewn perthynas ers 12 mlynedd

Mae angen newid y ffordd y mae cymdeithas yn meddwl am bobl ag anableddau a'u hawliau i gael perthynas, yn ôl elusen.

Bydd Mencap Cymru yn lansio ymgyrch ar Ddydd Sant Ffolant yn y Senedd i gychwyn "sgwrs genedlaethol".

Mae Alison Williams a Michael Gallagher o Ynys Môn wedi bod gyda'i gilydd ers 12 mlynedd.

Mae gan y ddau Syndrom Down.

Fe wnaeth y cwpl, sy'n 35 a 31 oed, gyfarfod mewn clwb chwaraeon ar yr ynys ac roedden nhw'n ffrindiau am yn hir cyn i gariad flodeuo.

"Fo ydy fy nhywysog i, mae o'n olygus iawn," meddai Alison.

Mae'r cwpl yn mwynhau gwyliau tramor a mynd allan i fwyta gyda'i gilydd.

"Dwi'n ei charu hi lot," meddai Michael. "Dwi'n meddwl y byddwn ni gyda'n gilydd am byth."

'Pobl yn gofyn cwestiynau busneslyd'

Mae Alison a Michael yn byw gyda'u teuluoedd, ond maen nhw'n aros yng nghartrefi ei gilydd yn rheolaidd.

Mae eu teuluoedd yn gwbl gefnogol o'u penderfyniad i fod yn gwpl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alison a Michael ymysg tua 70,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw gydag anabledd dysgu

Mae mamau'r ddau yn dweud bod pobl weithiau'n gofyn cwestiynau busneslyd ac yn rhyfeddu bod y cwpl yn rhannu ystafell.

Dywedodd Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru, bod gan bobl ag anableddau dysgu'r un hawl i berthynas gariadus â phawb arall.

"Efallai y bydd gan rai sy'n cefnogi pobl ag anabledd dysgu ofn y risgiau sy'n dod gyda chael perthynas," meddai.

"Ond lle mae gan yr unigolyn hwnnw alluedd, p'un a ydych chi'n rhiant neu'n asiantaeth gefnogol, fe ddylech chi ddatblygu a helpu'r unigolyn i gael y berthynas y maen nhw eisiau, sy'n iawn iddyn nhw."