NATO â diddordeb mewn prynu cerbyd Ajax, meddai gweinidog

Cerbyd Ajax
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerbyd arfog Ajax yn "farwol yn erbyn ein gwrthwynebwyr ar faes y gad", yn ôl gweinidog

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn "hyderus" bod cynghreiriaid NATO [Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd] â diddordeb mewn prynu'r cerbyd arfog Ajax a adeiladwyd yn ne Cymru, sydd wedi'i ohirio ers amser maith.

Mae Ajax wedi cael yr holl brofion milwrol ac wedi cyrraedd "gallu gweithredu".

Roedd y cerbydau gwerth miliynau o bunnoedd, a wnaed ym Merthyr Tudful, i fod i ddechrau gwasanaethu yn 2019.

Yn 2023, amlygodd adolygiad o'r prosiect £6.3bn "broblemau systemig, diwylliannol a sefydliadol" yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dywedodd y gweinidog amddiffyn Luke Pollard ei fod yn "hyderus" y bydd gwerthiannau'r cerbyd arfog "anhygoel" dramor yn sicrhau dyfodol ffatri General Dynamics ym Merthyr Tudful, sy'n cyflogi mwy na 700 o bobl.

Dywedodd Mr Pollard wrth BBC Cymru: "Mae wedi cael problemau yn y gorffennol.

"Roedd yn iawn bod treialon wedi'u gohirio i edrych ar y problemau hynny, ond roedd hefyd yn iawn bod y cwmni wedi mynd i'r afael â nhw, gan weithio gyda'r fyddin, gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn a General Dynamics i'w trwsio.

"Mae gennym ni nawr allu anhygoel, cenhedlaeth nesaf, sy'n ddiogel i ddynion a menywod ein lluoedd ei ddefnyddio, ond yn bwysig, mae'n effeithiol yn erbyn ein gwrthwynebwyr os caiff ei ddefnyddio ar faes y gad.

"Felly mae'n rhan allweddol iawn o alluoedd cenhedlaeth nesaf byddin Prydain.

"Ond fel gweinidog, ni fyddwn yn ei roi ar waith pe bai gennyf unrhyw amheuon ynghylch ei ddiogelwch".

Mae gan General Dynamics ddau safle yn ne Cymru, gyda cherbydau arfog Merthyr Tudful yn defnyddio offer cyfathrebu a ddatblygwyd yn Oakdale yn sir Caerffili.

Y ffatri ym Merthyr Tudful
Disgrifiad o’r llun,

Mae General Dynamics yn cyflogi mwy na 700 o bobl yn ei ffatri ym Merthyr Tudful

Dywedodd y prentis Charlie Penfold ei fod yn falch iawn o weithio ar y prosiect.

"Mae'n hynod fawreddog pan fyddwch chi'n gweithio gyda'r fyddin, ac os ydych chi'n siarad â ffrindiau neu deulu ac yn dweud 'rwy'n adeiladu cerbydau arfog' mae yna bob amser ychydig o waw ffactor.

"Rwy'n cael dod yma bob dydd ac edrych ar y cerbydau anhygoel hyn".

Dywedodd y peiriannydd dylunio Dinda Khairani fod General Dynamics wedi chwarae rhan sylweddol yn y gymuned leol.

"Mae'r cwmni hefyd yn cefnogi'r graddedigion a'r prentisiaid i fynd, er enghraifft i wahanol ysgolion lleol i gyflwyno peirianneg, felly rwy'n teimlo bod y diwydiant yn tyfu yn ne Cymru," meddai.

'Hyrwyddo'r peth i'n cynghreiriaid'

Ychwanegodd y gweinidog amddiffyn: "Rwy'n credu y dylai'r gweithlu yma fod yn hynod falch o'r hyn maen nhw wedi'i gynhyrchu... a fydd yn gwneud gwahaniaeth mor fawr i'n lluoedd arfog.

"Oherwydd y gallu anhygoel hwnnw rwy'n hyderus bod ein cynghreiriaid yn edrych ar hyn nawr ac yn meddwl a all wella eu galluoedd i ryfela.

"Mae Llywodraeth y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, wedi bod yn hyrwyddo'r platfform hwn i'n cynghreiriaid, oherwydd rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol i werthu'r platfform hwn i'n cynghreiriaid, i'w allforio, i weld cerbydau Ajax yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, gyda chadwyn gyflenwi Brydeinig yn cefnogi dros 4,000 o swyddi, yn cael eu defnyddio gan ein cynghreiriaid o fewn NATO ac o bosibl ymhellach i ffwrdd hefyd."

Yn gynharach eleni, addawodd Llywodraeth y DU gynyddu gwariant amddiffyn o 2.3% i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn 2027.

Dywed General Dynamics y byddai mwy o fuddsoddiad yn caniatáu iddo ddatblygu modelau newydd a manteisio ar y farchnad allforio.