Yr arweinydd corau Colin Jones wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Colin JonesFfynhonnell y llun, Cantorion Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Colin Jones ymddeol yn 2008

Bu farw Colin Jones, un o arweinwyr côr meibion amlycaf y gogledd.

Sefydlodd Cantorion Colin Jones a Chantorion Gogledd Cymru yn y 1990au.

Roedd yn hanu o Rosllannerchrugog a bu farw yn ei 80au cynnar wedi cyfnod byr o salwch.

Yn ôl yr arweinydd a'r cyfansoddwr Brian Hughes, oedd yn ei nabod ers roedd y ddau "yn ieuanc iawn" yn y capel a'r Stiwt, mae heddiw'n "ddiwrnod trist iawn, i mi yn bersonol ac i Gymru".

"Roedd Colin yn gerddor naturiol," dywedodd wrth Post Prynhawn ar Radio Cymru. "Rywsut, roedd y gerddoriaeth yn llifo o'i ddwylo.

"Roedd yn arbenigwr ar ganu corawl ac ar ganu unigol - yn enwedig caneuon y byd opera.

"Oedd o'n gw'bod sut i gynhyrchu'r sain ac yn fwy na hynny oedd o'n gw'bod sut i gael dynion i atgynhyrchu'r sain oedd o am gael.

Cyfraniad 'amhrisiadwy'

"Roedd o'n gallu egluro yn syml iawn... am gynhyrchu'r sain trwy anelu'r anadl - roedd popeth dan ei ddwylo fo yn hawdd."

Ychwanegodd: "Roedd o'n bianydd gwych... ac mae ei gyfraniad fel arweinydd Côr Meibion Rhos yn amhrisiadwy."

Fe ddechreuodd Mr Jones ei yrfa gerddorol gyda Chôr Meibion Rhos yn 17 oed, ac roedd hefyd yn bennaeth cerdd yn Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru - bellach yn rhan o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam.