3,000 o bobl yn angladd y pêl-droediwr Emiliano Sala

  • Cyhoeddwyd
Galarwyr yn cymeradwyo'r archFfynhonnell y llun, AFP TV
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna fonllef o gymeradwyaeth wrth i arch Emiliano Sala gael ei chludo o'r neuadd chwaraeon yn Progreso

Mae dros 3,000 o alarwyr yn talu eu teyrngedau olaf i'r pêl-droediwr Emiliano Sala yn Yr Ariannin.

Roedd y chwaraewr 29 oed yn teithio o Nantes i Gaerdydd ar awyren gyda'r peilot David Ibbotson pan ddiflannodd dros Fôr Udd ar 21 Ionawr.

Fe ddechreuodd yr angladd am 17:00 GMT yn y dref ble cafodd ei eni - Progreso - ond roedd yna gyfle hefyd i bobl ei gofio am rai oriau cyn hynny mewn gwasanaeth yn y clwb ble roedd Sala'n chwarae pan yn ifanc.

Dywedodd rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock bod hi'n bwysig iddo fod yno.

"Fy chwaraewr i yw e. Fe arwyddodd cytundeb i mi a rwy'n meddwl roedd e'n mynd i fod yn allweddol i'r hyn rydyn ni'n gobeithio ei gyflawni, a dyma'r yw'n unig peth da allech chi wneud."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rheolwr Caerdydd Neil Warnock bod hi'n bwysig i fod yn yr angladd

Ychwanegodd Warnock bod yna gysylltiad clos eithriadol ac amlwg rhwng teulu'r pêl-droediwr a'r gymuned leol, a'i fod wedi cerdded o amgylch y pentref a'r cae pêl-droed ble roedd Sala yn chwarae pan yn blentyn.

"Roedd pobol yn dangos lluniau ohono pan oedd yn bedair oed ac yn hŷn. 'Dach chi'n gallu gweld pa mor emosiynol ydy'r cyfan i holl aelodau ei deulu."

Dywedodd prif weithredwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Ken Choo - sydd hefyd yn Yr Ariannin - ei fod wedi siarad gyda theulu Sala nos Wener a dydd Sadwrn.

"Rydym oll yn drist iawn ... rydym yma i gefnogi'r teulu," meddai. "Roedd yn berson arbennig, yn wylaidd iawn, ei draed ar y ddaear ac yn barod i chwarae yn yr Uwch Gynghrair."

Ffynhonnell y llun, SNTV
Disgrifiad o’r llun,

Y faner yn cofio Emiliano Sala - neu Emi fel mae trigolion ei dref enedigol yn ei nabod

Cafodd baner ei gosod gan gefnogwyr pêl-droed y tu allan i'r neuadd chwaraeon yn Progreso gyda'r neges 'Emi, nunca caminaras solo' - 'Emi, fyddi di byth yn cerdded ar ben dy hun'.

"Mae fel pe tai'n aelod o 'nheulu," meddai Lucia Torres, sy'n byw ger y neuadd. "Ni allai'i ddeall na derbyn y peth oherwydd mae'n achosi gymaint o boen. Mae'r dref dan gwmwl ers 21 Ionawr."

Dywedodd llywydd Clwb San Martin de Progreso, Daniel Ribero fod Sala "yn ein cynrychioli ni... pentref bychan yw hwn ac roedd Emi yn enwog, yr unig un i chwarae'n broffesiynol."

Dywedodd modryb Sala, Mirta Taffarel werth adael y gwasanaeth: "Hoffwn i ffeindio person sy'n gyfrifol... rhywun sy'n dweud wrtha'i: 'dyma ddigwydodd'. Ond mae'n ymddangos taw dim ond damwain oedd e."

Ffynhonnell y llun, Gustavo Garello/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Modryb Emiliano Sala, Mirta Taffarel, yn gadael y gwasanaeth bore Sadwrn

Mae cynrychiolwyr o'i gyn-glwb Nantes fod yno hefyd, gan gynnwys yr amddiffynnwr Nicolas Pallois.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emiliano Sala'n chwarae i glwb San Martin de Progreso pan yn ifanc

Cafodd corff y pêl-droediwr 28 oed ei ganfod yng ngweddillion yr awyren ar 8 Chwefror, ond mae Mr Ibbotson, 59, yn dal ar goll.

Mae perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan, wedi cyfrannu £50,000 at ymgyrch i geisio canfod y peilot - sydd bellach wedi codi £243,000.

Fe gyrhaeddodd corff Sala yr Ariannin ddydd Gwener, ac yna cafodd ei yrru o Buenos Aires i ardal Sante Fe, ble cafodd ei fagu.

Roedd mam Sala, Mercedes, a'i chwaer Romina - a deithiodd i Ewrop ar ôl iddo ddiflannu - eisoes wedi ail-ymuno â'i dad, Horacio yn Progreso.

Ffynhonnell y llun, Getty Images