Hedfan corff Emiliano Sala yn ôl i'r Ariannin
- Cyhoeddwyd

Rhoddodd Clwb Pêl-droed Nantes deyrnged i Emiliano Sala ar eu gwefan yr wythnos ddiwethaf
Bydd corff y peldroediwr Emiliano Sala yn cael ei hedfan yn ôl i'w gartref yn yr Ariannin yr wythnos yma, ble bydd gwylnos yn cael ei chynnal.
Roedd Sala, 28, yn teithio i Gaerdydd ar awyren gyda'r peilot David Ibbotson pan ddiflannodd dros Fôr Udd ar 21 Ionawr.
Cafodd ei gorff ei ganfod yng ngweddillion yr awyren yr wythnos ddiwethaf, ond mae Mr Ibbotson yn dal ar goll.
Roedd Sala yn hedfan i ymuno â'i dîm newydd o'i hen glwb Nantes pan aeth yr awyren ar goll.

Mae teyrngedau'n parhau i gael eu gadael i Emiliano Sala y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd
Dywedodd maer Progreso - ble cafodd Sala ei eni - bod ei deulu wedi cyrraedd y dref ar gyfer y gwasanaeth.
Ychwanegodd Julio Muller bod disgwyl i gorff Sala gyrraedd brynhawn Gwener, pan fydd gwylnos yn cael ei chynnal.
Fe wnaeth yr awdurdodau adnabod corff Sala yn ffurfiol yr wythnos ddiwethaf ar ôl iddo gael ei godi o'r awyren, gyda'i deulu'n dweud y gallan nhw nawr "ddechrau galaru ein mab a'n brawd".
Clywodd cwest ddydd Llun bod y peldroediwr wedi marw o "anafiadau i'w ben a'i gorff".
Ddydd Mawrth fe wnaeth perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan, gyfrannu £50,000 at yr ymgyrch i geisio canfod Mr Ibbotson.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2019