Gwellhad merch anorecsig yn denu miliynau o wylwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ffilmiau merch 18 oed o Gaerdydd am ei brwydr i oresgyn anorecsia wedi denu miliynau o wylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dwy flynedd yn ôl bu bron i Lara Rebecca farw o'r cyflwr ond bellach mae ei chofnodion fideo am sut y mae hi wedi gwella wedi denu saith miliwn o wylwyr mewn tair wythnos.
Dywedodd Lara ei bod wastad wedi bod yn blentyn hapus ond pan roedd yn ei harddegau fe wnaeth hi gyfyngu ar ei deiet er mwyn delio gyda'i theimladau.
"O'n i jyst ar goll, o'dd neb really yn deall be o'n i'n mynd trwy, na fi, o'n i mor depressed, o'n i mor anhapus.
"O'n i ddim yn gw'bod be ddylai wedi 'neud, a'r unig beth oedd gen i control [drosto] oedd y bwyd, a 'na'r ffordd nes i ddelio gyda fy emosiynau.
"Yr unig ffordd oedd yn bosib i mi ddeall a delio gyda'r teimladau oedd cael rhyw reolaeth wrth fwyta ond yn anffodus fe arweiniodd hynny at fy nghwymp - anorecsia."
Dywedodd Lara bod ei theulu yn bryderus am ei bywyd pan oedd yn 16 oed - bu'n rhaid ei chludo adref mewn awyren tra ar wyliau er mwyn iddi dderbyn triniaeth ysbyty.
Ychwanegodd Lara: "O'n i fod ar wyliau yn Ffrainc am bythefnos ond ddeuddydd wedi i ni gyrraedd aeth pethau o ddrwg i waeth.
"O'n i'n cloi fy hun mewn toiledau am oriau er mwyn crio ac roedd hynny'n esgus i beidio bwyta.
"O'n i'n llwgu fy hun am gyfnodau maith ac yn y diwedd roedd rhaid fy hedfan adref.
"Cefais fy rhoi ar yr awyren gyntaf adref i'r DU a ges i driniaeth."
Hyderus a hapus
Ar ei salaf roedd Mynegai Màs Corff (BMI) Lara yn 13 - tipyn yn is na'r hyn sy'n cael ei ystyried yn iach i ferch o'i hoedran hi.
Mae'r lluniau a dynnwyd yn dangos faint o bwysau a gollodd.
"Dwi'n cofio fy stâd meddyliol adeg tynnu'r lluniau ac mae'r gwahaniaeth rhwng hynny a be' sy'n wir yn syfrdanol," meddai.
"O'n i wedi fy nghyflyru i golli mwy o bwysau a nawr dwi ddim yn gweld lle allwn fod wedi colli mwy o bwysau.
"Roedd e'n ofnus a nawr dwi isie neidio 'nôl mewn amser a rhoi cwtch i fi fy hun."
Roedd y broses o wella dros gyfnod o ddwy flynedd yn araf ond bellach mae Lara wedi newid ei bywyd.
Dros amser fe wellodd ei pherthynas â bwyd ac fe ddechreuodd hi wneud ymarfer corff. Erbyn hyn mae hi'n teimlo'n hyderus ac yn hapus.
"Dwi eto wedi datblygu personoliaeth - dwi'r Lara dwi wastad wedi bod yn hytrach na'r ferch anorecsig oedd yn isel ei hysbryd.." meddai.
"Cymdeithasu, gweld ffrindiau a chael cyfle i ddod allan [o'r cyflwr] wnaeth fy annog i fod yn iach eto."
'Dim geiriau'
Mae Lara wastad wedi ysgrifennu blog ond yn ddiweddar mae hi wedi bod yn uwchlwytho fideos sy'n trafod ei gwellhad ac yn cofnodi'r daith.
Mae un ffilm wedi denu mwy na 18,000 o sylwadau a bellach mae ganddi 50,000 o ddilynwyr.
"Does gen i ddim geiriau. Dwi'n gwybod lle'r oeddwn i a pha mor ddifrifol y gall iselder fod," meddai.
"Dwi'n gwybod sut mae'n teimlo i fod mewn man tywyll a chi'n teimlo bod dim modd dianc.
"Weithiau dwi'n meddwl am y cyfnodau hynny a dwi ddim yn deall fy hun.
"Ond dwi'n llongyfarch fy hun. Dwi'n hapus iawn."
Angen cymorth neu gyngor?
Os ydych am gymorth neu gyngor am anhwylderau bwyta mae modd ei gael yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd17 Medi 2018
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2018