Carcharu dyn am ymosodiad ar ddieithryn mewn bwyty

  • Cyhoeddwyd
Dalton Morrissey/Hickory'sFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru/Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dalton Morrissey ei garcharu am yr ymosodiad ym mwyty Hickory's yn Llandrillo-yn-rhos

Mae dyn o Landudno wedi cael ei garcharu am chwe blynedd am drywanu dieithryn 25 gwaith mewn bwyty yn Sir Conwy.

Fe wnaeth Dalton Morrissey, 26, ymosod ar Gareth Edwards, 32, ym mwyty Hickory's yn Llandrillo-yn-rhos ym mis Awst y llynedd.

Roedd Morrissey wedi cyfaddef cyhuddiad o glwyfo gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol, ond cafwyd yn ddieuog o geisio llofruddio gan y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Bydd ar drwydded am dair blynedd wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

'Cwbl ddireswm'

Fe wnaeth Morrissey, oedd yn feddw ar y pryd, ymosod ar Mr Edwards yn nhoiledau'r bwyty er nad oedd y ddau yn adnabod ei gilydd.

Bu'n rhaid i Mr Edwards dreulio chwe diwrnod yn yr ysbyty, ac nid yw wedi gallu dychwelyd i'w waith wedi'r digwyddiad.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowland bod yr ymosodiad yn un "cwbl ddireswm".

"Yr unig eglurhad yw eich bod wedi yfed llawer gormod, ac wedi mynd yn ymosodol tra'n feddw," meddai.