Arolygiadau amlach mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
ysgol

Bydd arolygiaeth addysg Cymru, Estyn, yn ymweld ag ysgolion yn amlach fel rhan o baratoadau'r cwricwlwm newydd.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams y bydd y corff yn chwarae mwy o ran yn y gwaith o gefnogi ysgolion.

Yn ôl y gweinidog, mae'r cam yn un o gyfres o fesurau sydd â'r nod o wella safonau "gan roi'r pwyslais ar addysgu a dysgu, ar lesiant disgyblion ac athrawon ac ar leihau biwrocratiaeth ddiangen".

Fel rhan o fesurau i ddiwygio trefniadau arolygu a fydd yn cael eu cyflwyno'n raddol o fis medi 2021, byddai Estyn yn ymweld ag ysgolion fwy nag unwaith mewn cylch saith mlynedd.

Eu nod fydd darparu sicrwydd i rieni a'r gymuned ehangach yn fwy aml ynghylch y safonau sy'n cael eu cyrraedd a'r blaenoriaethau ar gyfer gwella.

Er mwyn galluogi'r newidiadau hyn i ddigwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ymestyn y cylch arolygu i 8 mlynedd o'r 7 mlynedd bresennol.

Byddai hyn yn golygu y byddai arolygiadau ysgolion yn cael eu hatal dros dro o fis Medi 2020 hyd at fis Awst 2021. Serch hynny, bydd y gwaith o arolygu ysgolion sy'n achosi pryder, awdurdodau lleol ac ysgolion annibynnol yn parhau.

Proses raddol fydd hon dros nifer o flynyddoedd - gan helpu ysgolion i addasu i'r cwricwlwm newydd ac ar yr un pryd i gynnal a chodi safonau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty Williams y byddai arolygiaeth effeithiol "yn cefnogi ysgolion i gynnal gwelliant"

Dywedodd Kirsty Williams: "Arolygiaeth effeithiol yw un sy'n darparu sicrwydd bod safonau yn cael eu bodloni, ac sydd ar yr un pryd yn cefnogi ysgolion i gynnal gwelliant.

"Mae'r newidiadau arfaethedig yn rhan o newid ehangach yn y diwylliant rydym angen ei weld yn ein hysgolion - ac mae newid diwylliant yn cymryd amser bob tro. 'Does dim dull clec fawr pan ddaw hi'n gwestiwn o fater fel hwn.

"Rydyn ni'n symud i fodel o werthuso a gwella, sy'n fwy cydnaws â'r systemau addysg sy'n perfformio orau ledled y byd. Yr hyn sy'n parhau'n gyson yw ein pwyslais ar godi safonau a lefelau cyflawniad i bawb."

Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands: "Rwy'n croesawu cyhoeddiad heddiw ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda phenaethiaid ac ysgolion ar ddiwygio'r cwricwlwm.

"Byddwn yn lansio ymgynghoriad yn fuan i gasglu barn ynghylch holl gynigion heddiw cyn inni roi unrhyw newidiadau ar waith."

'Cynyddu'r pwysau'

Dywedodd Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars, Bangor ac aelod o bwyllgor gwaith NEU, ar y Post Cyntaf ei fod wedi "ei synnu" gan y cyhoeddiad.

"Dwi'n meddwl bod y Cynulliad wedi derbyn i raddau fod yna broblemau gyda'r ffordd mae'r cwricwlwm newydd yn cael ei greu, ond yn anffodus nid arolygu ysgolion yw'r ateb," meddai.

"Os nad ydyn ni'n ofalus, dwi'n gallu rhagweld sefyllfa lle mae ysgolion yn cael eu harolygu naill ai gan Estyn neu gan y consortiwm lleol bron bob yn ail flwyddyn."

Ychwanegodd y byddai hynny yn "cynyddu'r pwysau ar ysgolion ac ar reolwyr ysgolion yn enwedig".

Mewn datganiad fe fynegodd Plaid Cymru eu hanfodlonrwydd gyda'r cyhoeddiad: "Mae sôn am fwy o arolygiadau Estyn yn siŵr o ddigalonni ysgolion ar draws Cymru. Nid dyna'r ateb i godi safonau.

"Mae angen gwella atebolrwydd ar frys ac mae angen adolygu'r trefniadau arolygu a chefnogi, er mwyn cyd-gordio'r gefnogaeth yn well."