Penaethiaid pryderus yn anfon llythyr at rieni Conwy

  • Cyhoeddwyd
Cyngor ConwyFfynhonnell y llun, Google

Mae penaethiaid ysgolion uwchradd Sir Conwy wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at rieni yn rhybuddio am sgil effeithiau toriadau i gyllid ysgolion ar addysg eu plant.

Mae'r llythyr yn dweud bod ysgolion yn wynebu toriadau ariannol o rhwng 3.6% a 4% ond fod hynny yn golygu 7.6% mewn termau real o ganlyniad i chwyddiant.

Mae hynny gyfystyr â £200,000 mewn rhai ysgolion.

Yn y llythyr mae'r penaethiaid yn dweud bod yr ysgolion "ar ben eu tennyn" a bod y sefyllfa ariannol yn "argyfyngus".

Mae'r llythyr hefyd yn rhybuddio y dylai rhieni ddisgwyl:

  • Dosbarthiadau mwy o faint a llai o athrawon ac Uwch Arweinwyr;

  • Adeiladau'r ysgol yn dirywio;

  • Llai o gymorth ar gyfer anghenion ychwanegol;

  • Toriadau i wasanaethau bugeiliol gan gynnwys cymorthyddion a staff cefnogi;

  • Offer cyfrifiadurol sydd wedi dyddio;

  • Llai o deithiau a gweithgareddau ôl-ysgol a fu'n gymorthdaledig neu'n rhad ac am ddim yn y gorffennol;

  • Her sylweddol i dwf addysg cyfrwng Cymraeg a chwrdd â Miliwn o Siaradwyr Cymraeg;

  • Ffrydiau cyllid ychwanegol fel grantiau yn cael eu defnyddio i gefnogi darpariaeth craidd ysgolion.

Mae'r llythyr yn cyfeirio at bryderon penaethiaid o ran colli swyddi ac "nad yw'n bosibl gwneud arbedion a fydd yn gwneud i fyny am y diffyg enfawr yn yr arian sy'n cael ei ddyrannu i ni".

"Mae'n teimlo'n annheg iawn ar ein dysgwyr a'n staff. Yn y pen draw, y plant o fewn ein cymunedau sy'n dioddef - mae nhw'n haeddu gwell," meddai.

Mae'r penaethiaid hefyd yn annog rhieni i lobïo eu ACau a chynghorwyr lleol, neu ychwanegu enwau at ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod cyllid ysgolion.

'Toriadau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ""Mae gwasanaethau addysg ar gyfer disgyblion hyd at 16 oed yn cael eu darparu o gronfa graidd y llywodraethau lleol, yn dibynnu ar eu hanghenion a'u blaenoriaethau.

"Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid eleni i sicrhau nad yw ddim un llywodraeth leol yn wynebu gostyngiad yn eu cyllid o fwy na 0.3%.

"Mae Conwy yn un o bum awdurdod lleol fydd yn derbyn cyfran o £3.5m yn ychwanegol y flwyddyn nesaf.

"Mae hyn yn erbyn agenda llymder Llywodraeth y DU, fydd yn arwain at doriad o fwy na £1bn i gyllid cyfan Gymru.

"Byddwn yn parhau i alw am adnoddau ychwanegol i wario ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sy'n cynnwys ysgolion," meddai.