Simon Thomas wedi hawlio £4,000 ar ôl gadael fel AC

  • Cyhoeddwyd
Simon Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Simon Thomas wedi bod yn aelod Cynulliad ers 2011

Fe wnaeth cyn-Aelod Cynulliad blediodd yn euog i droseddau rhyw yn erbyn plant hawlio bron i £4,000 mewn treuliau ar ôl ymddiswyddo.

Fe wnaeth Simon Thomas hawlio arian 27 gwaith ar ôl gadael ei rôl - pump o'r rheiny ar ôl cyfaddef i'r troseddau.

Hawliodd arian i wagio ei swyddfa a dod â'i denantiaeth i ben yn ei ail gartref wedi iddo ymddiswyddo ar ôl cael ei arestio ym mis Gorffennaf 2018.

Ar 3 Hydref fe wnaeth Thomas bledio'n euog i greu mwy na 500 o luniau a dros 70 fideo anweddus o blant.

Cafodd ei ddedfrydu i 26 wythnos o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd.

'Gwariant cyfreithiol'

Mae rhai o'r treuliau sy'n cael eu hawlio ganddo'n ymwneud â materion cyn iddo ymddiswyddo fel AC Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ond mae rhai eraill yn ymwneud â chostau wnaeth godi o ganlyniad i adael y Cynulliad.

Mae ymchwil gan BBC Cymru wedi darganfod fod Thomas wedi hawlio:

  • £441 ar 13 Medi ar gyfer "gwariant cyfreithiol ar ail gartref" yn ymwneud â dirwyn tenantiaeth i ben;

  • £594 ar 27 Medi ar gyfer "costau symud swyddfa" gyda chwmni Carters Removals;

  • £735 ar 24 Gorffennaf - y diwrnod cyn iddo ymddiswyddo - i rentu ei ail gartref ar gyfer mis Awst 2018.

Yn ôl rheolau'r Cynulliad gall person sydd wedi gadael fel AC "am unrhyw reswm" hawlio treuliau am y costau i "gwblhau unrhyw waith oedd yn mynd rhagddo pan adawodd y person fel aelod".

Er i'r AC Ceidwadol, Andrew RT Davies, ddweud ei bod hi'n "iawn" bod unigolion a busnesau'n cael eu had-dalu am eu gwaith wrth i Thomas adael ei rôl, ychwanegodd bod lle i gwestiynu ai Thomas ei hun yn hytrach na'r trethdalwyr ddylai fod yn talu am rai eitemau.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Simon Thomas am sylw.