'Anffafriaeth' i rentwyr â phroblemau iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Tai rhent

Gall pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl wynebu anffafriaeth wrth geisio rhentu'n breifat, yn ôl Sefydliad Tai Siartredig Cymru (CIH).

Mewn adroddiad mae'r corff yn galw am roi mwy o wybodaeth am iechyd meddwl i landlordiaid, a chael cyrsiau hyfforddiant ymwybyddiaeth gorfodol.

Dywedodd Cymdeithas y Landlordiaid Cofrestredig nad yw'n gweld anffafriaeth yn aml, ond bod landlordiaid yn aml yn awyddus i fynd am yr opsiwn sydd â'r risg isaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae "gwella mynediad i'r sector rhentu breifat a rhoi'r gefnogaeth addas yn ei le i gynnal tenantiaethau yn bwysig wrth helpu pobl fregus gael cartref diogel".

"Rydym yn croesawu'r cyfraniad mae'r ymchwil hwn yn ei wneud ac yn mynd i ystyried ei argymhellion gyda diddordeb."

'Angen gweithredu ar frys'

Dywedodd Catherine May o CIH Cymru bod bron i hanner y landlordiaid y gwnaethon nhw eu holi yn credu nad oes digon o gyngor a gwybodaeth ar gael i'w helpu i gefnogi tenantiaid.

"Dylai gwybodaeth fod yn hawdd i'w ganfod i landlordiaid a thenantiaid sydd â phroblemau iechyd meddwl, ac ry'n ni angen modiwl hyfforddi ar-lein fel rhan o'r achrediad gyda Rhentu Doeth Cymru," meddai.

"Ry'n ni'n meddwl bod angen gweithredu ar frys, ac mae 'na bryder bod landlordiaid yn dirwyn tenantiaethau i ben am nad ydyn nhw'n deall problemau iechyd meddwl tenantiaid."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catherine May bod angen hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl i landlordiaid

Dywedodd Douglas Haig o Gymdeithas y Landlordiaid Cofrestredig ei fod yn gwrthwynebu cyrsiau hyfforddi gorfodol, ond bod angen i landlordiaid wybod ble i yrru tenantiaid am gymorth.

"Nid cyfrifoldeb landlord yw bod yn weithiwr gofal, cwnselydd neu weithiwr cymdeithasol i'w tenant," meddai.

"Ond os ydyn nhw'n ymwybodol bod problem, mae annog y tenant tuag at y gwasanaethau perthnasol yn rhywbeth y gallwn ni ei wneud."