Lle oeddwn i: Huw Garmon, Hedd Wyn a'r Oscars
- Cyhoeddwyd
Mae'n hi'n 25 mlynedd ers i'r ffilm Hedd Wyn gael ei henwebu am Oscar yng nghategori y ffilm orau mewn iaith dramor. Mae'r actor Huw Garmon, oedd yn chwarae'r prif gymeriad, yn cofio'r cyfnod pan gafodd y ffilm Gymraeg gyntaf ei henwebu am un o brif wobrau ffilm y byd...
Ro'n i'n 24 oed yn dechra gweithio ar Hedd Wyn ac yn 25 pan wnes i orffen. Roedd yn gyfnod o newid yn fy mywyd i. O'n i'n byw yn Llundain pan gefais i fy nghyfweld ar gyfer y rhan, ond erbyn gorffen gweithio ar y ffilm ro'n i wedi symud i fyw yn Ninbych.
Fe wnes i ychydig o'r golygfeydd clychau'r gog, y golygfeydd caru gyda Judith Humphreys, yn Ebrill 1991, heb fod yn gwybod pwy oedd y cast o'n cwmpas ni i ddweud y gwir. Wedyn dros yr haf hwnnw fuon ni'n ffilmio yn ardal Trawsfynydd, roedd Paul Turner [y cyfarwyddwr] yn awyddus iawn i ffilmio'r golygfeydd yn y lleoliadau go iawn. Ym mis Ionawr y flwyddyn ganlynol wnaethon ni orffen y gwaith.
'Andros o gyfrifoldeb'
Ro'n i'n teimlo nerfusrwydd mawr, oherwydd o'n i'n ymwybodol iawn o'r stori a hanes Hedd Wyn a'r chwedloniaeth felly ro'n i'n teimlo andros o gyfrifoldeb. Ro'n i'n gynnar iawn yn fy ngyrfa, ond wedi gorffen coleg drama yn Llundain ers rhyw flwyddyn - roedd hynny yn ychwanegu at y nerfusrwydd.
O'n i eisiau bod yn drylwyr ac ar fy ngorau. Roedd fy ffocws i gyd ar fy ngwaith. Ro'n i wedi ymroi i'r holl beth, dwysedd y gwaith, y darllen o'n i'n ei 'neud o gwmpas y pwnc - roedd o'n waith caled iawn.
Dwi ddim o Drawsfynydd ac o'n i'n ymwybodol iawn bod yn rhaid i fi swnio fel rhywun o Traws. Fues i'n Sain Ffagan yn gwrando ar wahanol acenion a fues i'n aros efo teulu yng Nghwm Prysor am ryw bythefnos. Roedd 'na wythnos o ymarfer cyn ffilmio, a dyna pryd wnes i sodro'r acen. Roedd hynny'n bwysig iawn i mi i gredu yn y cymeriad.
Dwi'n cofio un o'r criw yn dweud yng nghanol y ffilmio, 'mae'r ffilm yma yn arbennig'. Mewn ffordd roedd o'n dweud 'wyt ti'n sylweddoli pa mor dda mae pethau'n mynd?' - a dyna'r unig dro dwi'n cofio meddwl hynny - oherwydd pan ti yng nghanol gweithio ar rywbeth, ti ddim o reidrwydd yn sylweddoli cystal gwaith wyt ti'n ei wneud.
Dawnsio yng ngorsaf Llundain
O'n i yn Llundain pan ges i'r alwad ffôn i ddweud bod y ffilm wedi ei henwebu am Oscar. Roedd fy mywyd i wedi symud yn ei flaen, roedd gen i blentyn erbyn hynny. Roedd tua 18 mis wedi mynd heibio ers i'r ffilm gael ei rhyddhau, ac o'n i'n gweithio ar Brother Cadfael, felly roedd o braidd yn rhyfedd.
Doedd dim mobile phone gen i, felly ges i neges yn gofyn i fi ffonio nôl pan o'n i yng ngorsaf Paddington neu Euston, a dyma nhw'n dweud bod y ffilm wedi ei henwebu. O'n i'n dawnsio o gwmpas, a dwi'n cofio edrych ar y cannoedd o bobl, a neb yn sylweddoli beth oedd y newyddion o'n i wedi ei gael. Oedd hwnna'n ffantastig!
Seremoni'r Oscars... 'fel Eisteddfod'
Roedd cael mynd i'r Oscars yn gymaint o wefr. O'n i jyst yn teimlo mod i mor lwcus. Yno yn cynrychioli y cast a'r criw oeddwn i, achos gwaith tîm ydy o - bysech chi byth bythoedd yn cyrraedd lle ydach chi oni bai bod pawb yn cyd-dynnu a gweithio'n galed.
O'n i'n teimlo fel aelod o'r cyhoedd yn sbïo ar y wynebau cyfarwydd 'ma mewn byd anghyfarwydd. Dwi'n cofio gweld Sylvester Stallone a meddwl 'mae'n fyrrach nag o'n i'n disgwyl iddo fod'.
Ond ges i'r argraff ei fod o fel Eisteddfod iddyn nhw, rhyw ddigwyddiad cymdeithasol. Mae'r ffocws ar bwy sy'n cystadlu a phwy sy'n mynd i ennill, ond mae 'na lot fawr o bobl eraill yno hefyd, y bobl sy'n gweithio i'r diwydiant, maen nhw yno i gael eu gweld a hyrwyddo eu hunain - ond hefyd i ddathlu'r diwydiant mewn ffordd. Roedd yn deimlad clòs, cymunedol bron iawn.
'Y foment i fi'
Ond y foment fwya' sylweddol bwysig i mi oedd pan gafodd y ffilm ei dangos yn y Director's Guild of America yn Los Angeles. Dyma bencadlys cyfarwyddwyr ffilm mwya'r byd. Roedd y gynulleidfa'n sylweddol, ac ar y diwedd, dywedodd y publicist eu bod nhw wedi rhyfeddu achos doedd neb o'r cyfarwyddwyr a'r cynhyrchwyr wedi codi i adael y theatr. Maen nhw'n gwylio degau o ffilmiau'r wythnos, ac yn aml yn gadael ar ôl 10 munud.
Mae'r ffaith iddyn nhw aros i wylio'r ffilm gyfan yn destament i gystal ffilm ydy hi. Honno oedd y foment i fi - yn datgan bod ein gwaith ni gystal o ran ansawdd a safon ag unrhyw un arall yn y byd.
Mae'n ymddangos bellach wrth sbio nôl mi oedd Hedd Wyn wedi dangos rhyw benllanw. Roedd 'na 10 mlynedd o S4C wedi bod ac mi oedd yn rhyw fath o ddathliad o safonau cynyrchiadau a ffilmiau a'r gwaith teledu oedd yn digwydd yng Nghymru. Roedd yn dangos y gallwn ni fod cystal â'r diwyddiant mawr sy' drws nesa' i ni.
Efallai o ddiddordeb: