Ymestyn amser Caerdydd i dalu am Emiliano Sala

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y cwest i farwolaeth Emiliano Sala ei fod wedi marw o anafiadau i'w ben a'i gorff

Mae'r amser sydd gan Glwb Pêl-droed Caerdydd i dalu taliad cyntaf y ffi o £15m am Emiliano Sala wedi cael ei ymestyn nes 27 Chwefror.

Bu farw'r chwaraewr 28 oed o'r Ariannin pan aeth awyren oedd wedi'i pheilota gan David Ibbotson - sy'n parhau ar goll - i mewn i Fôr Udd ar 21 Ionawr.

Fe wnaeth cyn-glwb Sala, Nantes yrru llythyr at Uwch Gynghrair Lloegr ar 5 Chwefror yn hawlio'r cyntaf o dri thaliad o fewn 10 diwrnod.

Mae'r Adar Gleision wedi dweud eu bod am ohirio'r taliad cyntaf nes bod "eglurder" ar fanylion y digwyddiad a bod yr ymchwiliad i'r ddamwain wedi'i gwblhau.

Maen nhw hefyd eisiau sicrhau eu bod yn hapus â'r holl ddogfennaeth berthnasol, ond maen nhw wedi dweud y byddan nhw'n talu'r swm cyflawn os oes rhaid.

Y swm a dalwyd am Sala yw'r ffi uchaf erioed i Glwb Pêl-droed Caerdydd dalu am chwaraewr.

Clwb arall o Ffrainc, Bourdeaux fydd yn derbyn hanner y ffi wedi iddyn nhw gytuno hynny â Nantes pan symudodd Sala o un clwb i'r llall yn 2015.

Mae Nantes wedi rhybuddio y byddan nhw'n cyfeirio'r mater at gorff llywodraethu pêl-droed y byd, FIFA, os na fyddan nhw'n derbyn y taliad cyntaf erbyn yr wythnos nesaf.