Cyngor yn penderfynu dyfodol hen gapel yng Nghefn Mawr
- Cyhoeddwyd
Sut mae adfywio ardal ôl-ddiwydiannol a manteisio ar dwristiaeth?
Dyna fydd yn rhaid i Gyngor Wrecsam ei ofyn wrth benderfynu ar ddyfodol hen gapel yng Nghefn Mawr yn ne'r sir.
Dyma ardal sydd wedi gweld dyddiau gwell.
Fe gaeodd ffatri gemegau yno ddiwedd y 2000au, a diflannodd ffatri arall yn Acrefair gerllaw yn yr un cyfnod.
Ond eto, gwta filltir i ffwrdd, mae un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, sef traphont ddŵr Pontcysyllte.
Arian cyhoeddus
Yn 2009 enillodd y safle'r statws byd-enwog hwnnw, ac mae sefydliad Glandŵr Cymru'n dweud bod 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn yn dod yno.
Dydy'r ymwelwyr hynny ddim yn dod i Gefn Mawr.
Trawsnewidiwyd hen addoldy'r Bedyddwyr yn y pentref - capel Ebeneser - yn ganolfan gelfyddydol gyda help tua £1m o arian cyhoeddus yn 2007.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe gaeodd ei drysau, gyda diffyg ymwelwyr yn ffactor.
"Fe fethodd y lle hwn am ddau reswm," meddai David Metcalfe o Grŵp Camlas Plas Kynaston. "
"Yn gyntaf, diffyg lle parcio - does 'na ddim lle yma. Ac yn ail, dim digon o bobl yn pasio."
Mae'r adeilad yn segur hyd heddiw, a bwriad y perchennog, sef Cyngor Wrecsam, oedd ei werthu mewn ocsiwn gyhoeddus.
Ond fe newidiwyd hynny ar y funud ola', gyda'r awdurdod lleol yn cydnabod pryderon pobl yr ardal y "byddai'r eiddo'n cael ei werthu ac yna'n cael ei ddefnyddio mewn ffordd na fyddai'n cyfrannu tuag at adfywiad y pentref yn y dyfodol."
Yn lle'r ocsiwn, felly, mae'r cyngor wedi gofyn am gynigion ariannol a chynlluniau at y dyfodol gan y darpar brynwyr - a dydd Iau ydy'r dyddiad cau i gyflwyno'r rheiny.
Mae Mr Metcalfe a Grŵp Camlas Plas Kynaston wedi cyflwyno cais yn barod, ac mae ganddyn nhw gynlluniau uchelgeisiol i fanteisio ar yr ymwelwyr sy'n dod i draphont Pontcysyllte.
Y syniad yw gosod car cebl o un o feysydd parcio'r safle treftadaeth er mwyn dod â'r twristiaid i ganol Cefn Mawr.
Byddai canolfan Ebeneser felly'n cyfuno cyfleusterau i ymwelwyr a thrigolion y dre'.
Lawr y dyffryn, wrth droed y draphont, i bentref Trefor mae'r twristiaid fel arfer yn tyrru.
Dwy ardal wahanol
Mae'r ardal hon yn rhan o ardal etholiadol Llangollen Wledig - ardal sydd ymhlith y 30% lleiaf difreintiedig yng Nghymru, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Mae canol Cefn Mawr ymhlith y 30% mwyaf difreintiedig.
Er ei fod yn cydymdeimlo â sefyllfa economaidd Cefn Mawr, dydy is-gadeirydd Cyngor Cymuned Llangollen Wledig ddim yn credu bydd uchelgais Grŵp Camlas Plas Kynaston yn cael ei gwireddu.
"Mae eu meddylie' nhw am be' maen nhw isio yn fan hyn yn wahanol iawn i'n meddylie' ni, ynde," meddai'r Cynghorydd Elfed Morris.
"Maen nhw'n sôn am cable cars o dop Cefn Mawr i lawr i bentre Trefor. Dwi'n meddwl mai breuddwyd ydy honno, wneith hynny byth ddigwydd."
Mae methiant yr ymgais gyntaf i droi Ebeneser yn ganolfan wrth galon cymuned Cefn Mawr wedi gadael rhywfaint o chwerwder yn y pentref.
"Rydan ni angen i Gyngor Wrecsam ddechrau gweithio gyda'r gymuned er mwyn creu adfywiad economaidd cynaliadwy," meddai Mr Metcalfe.
"Dydy hynny heb ddigwydd ers tro. Ebeneser oedd prif brosiect adfywio Cefn Mawr, ac mae ei methiant wedi gadael y gymuned mewn limbo ynghanol un o Safleoedd Treftadaeth y Byd."
Gweithio gyda'r gymuned
Dywedodd Steve Bayley, Pennaeth Tai a Chyllid Cyngor Wrecsam, fod gan y sir "gefndir cryf o gefnogi cymuned Cefn Mawr trwy fuddsoddi a chronfeydd adfywiad" a'u bod yn "gweithio gyda chynrychiolwyr y gymuned" fel bod arian yn targedu'r meysydd sy'n cael eu blaenoriaethu.
Ychwanegodd: "Mae hanes y buddsoddiad yn mynd yn dros 20 mlynedd, gan ddechrau gyda rhaglenni cymunedol i ddarparu dros £250,000 pob blwyddyn er lles cymunedol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned, a ddechreuwyd yn 1997.
"Arweiniodd hon at y Fenter Treftadaeth Treflun, a welodd wariant o filiynau o bunnoedd ar adfywiad corfforol ac economaidd y pentref, trwy ddau gyfnod diffiniedig."
Wedi'r dyddiad cau i gyflwyno cynlluniau ar gyfer adeilad Canolfan Ebeneser, bydd y cyngor yn gweithio â Chronfa Treftadaeth y Loteri i ddewis pwy gaiff brynu'r hen gapel.
Bydd cynlluniau uchelgeisiol Grŵp Camlas Plas Kynaston ymhlith yr opsiynau bydd yn rhaid iddyn nhw'u hystyried.
Ond beth fyddai orau, yn yr oes sydd ohoni, i Gefn Mawr ôl-ddiwydiannol?