Diwrnod rhyngwladol mamiaith: 'Angen newid ideoleg'
- Cyhoeddwyd
"Mae angen symud oddi wrth yr ideoleg sydd yn nodi mai dim ond un iaith yn unig y dylai fod gan bob gwladwriaeth neu gymdeithas."
Dyma oedd neges Fernand de Varennes, arbenigwr hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, fel rhan o ddathliadau diwrnod rhyngwladol mamiaith.
UNESCO sy'n trefnu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith, sy'n cael ei gynnal yn flynyddol ar 21 Chwefror.
Ychwanegodd Mr de Varennes fod "materion ieithyddol yn aml yn cynnwys materion hawliau dynol pwysig ar gyfer lleiafrifoedd sydd ymhell tu hwnt i faterion diwylliannol".
Mae 2019 hefyd yn Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ôl y datganiad, pwrpas Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith yw hyrwyddo a dathlu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol - ac i gydnabod ac amddiffyn yr hawliau dynol sydd gan leiafrifoedd a phobl frodorol yng nghyd-destun iaith.
"Mae iaith yn rhan gwbl allweddol o graidd ein hunaniaeth ac yn nodwedd unigryw o ddynol ryw y mae'n rhaid i ni ei dathlu ac ymhyfrydu ynddi," meddai'r arbenigwr hawliau dynol.
'Mae iaith yn golygu pŵer'
Iaith ac addysg fydd ffocws Fforwm ar Faterion Lleiafrifoedd y Cenhedloedd Unedig eleni.
Nododd Mr de Varennes fod iaith yn golygu pŵer, a bod absenoldeb ieithoedd lleiafrifol a brodorol ym myd addysg, ynghyd â diffyg defnydd gan yr awdurdodau, wedi cyfrannu at eithrio ac ymylu ieithoedd.
"Mae'n hanfodol ein bod yn symud oddi wrth yr ideoleg sydd yn nodi mai dim ond un iaith yn unig y dylai fod gan bob gwladwriaeth neu bob cymdeithas ar draul pob iaith arall, pan fo hyn yn gwrthdaro â hawliau ieithyddol lleiafrifoedd neu bobl frodorol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2018