Brian Flynn wedi ei benodi yn is-hyfforddwr Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Brian FlynnFfynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Bu Brian Flynn yn rheolwr dros dro ar Gymru yn 2010

Mae Brian Flynn wedi ail-ymuno â Chlwb Pêl-droed Wrecsam fel is-hyfforddwr.

Roedd Flynn yn rheolwr ar y clwb am 12 mlynedd rhwng 1989 a 2001, a chwaraeodd 100 o gemau i'r Dreigiau rhwng 1988 a 1993.

Mae'n ymuno gyda Wrecsam ar frig y Gynghrair Genedlaethol, a hynny ychydig wythnosau wedi penodiad Bryan Hughes fel rheolwr.

Yn fwy diweddar bu'n sgowt i Abertawe, cyn derbyn y cynnig i ddychwelyd i'r Cae Ras.

"Rwyf wrth fy modd yn dychwelyd i helpu Bryan gyda chlwb sy'n arbennig iawn i mi," meddai.

"Bydde ddim byd gwell gen i na helpu'r clwb yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed."