Cyhuddo Chris Davies AS o hawlio treuliau ffug

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies

Mae Chris Davies, Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, wedi cael ei gyhuddo o gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.

Cyflwynwyd tystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron sy'n awgrymu bod Mr Davies wedi cyflwyno dwy anfoneb gamarweiniol.

Mae'n cael ei gyhuddo o dri throsedd - dau o'r rheini am greu dogfennau ffug ac un am gynnwys tystiolaeth gamarweiniol wrth hawlio'r treuliau.

Dywedodd Mr Davies: "Rwy'n hynod o siomedig o glywed y cyhoeddiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

"Rydw i eisoes wedi esbonio beth oedd yr amgylchiadau a arweiniodd at yr ymchwiliad, sy'n dyddio nôl i pan roeddwn i'n cychwyn fy rôl fel Aelod Seneddol dros dair blynedd yn ôl."

Fe fydd Mr Davies yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar 22 Mawrth.