Beiciwr wedi marw wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A541 ger Afon-wen
Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Yr Wyddgrug y penwythnos diwethaf.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a thractor ar Ffordd Dinbych yn Afon-wen ychydig cyn 15:30 dydd Sadwrn, 16 Chwefror.
Cafodd y beiciwr anafiadau difrifol ac fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke, ond bu farw yno nos Iau, 21 Chwefror.
Dywedodd Sarjant Nicola Grimes-Williams o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a chyfeillion y dyn yn y cyfnod anodd yma.
"Mae nifer o dystion eisoes wedi cysylltu gyda ni, a diolch am eu cymorth. Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau dash-cam gysylltu gyda ni yn syth."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod X022053.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2019