Cost ymosodiadau cŵn ar anifeiliaid fferm yn uwch

  • Cyhoeddwyd
defaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae ystadegau NFU Mutual yn dangos bod gwerth £285,000 o niwed wedi ei wneud i stoc ffermwyr yn 2018, sy'n gynnydd o 113%.

Fe ddyblodd cost ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yng Nghymru yn 2018, yn ôl cwmni yswiriant.

Mae ystadegau NFU Mutual yn dangos bod gwerth £285,000 o niwed wedi ei wneud i stoc ffermwyr yn 2018, sy'n gynnydd o 113%.

Dywedodd un ffermwr o Gorwen bod colli defaid achos ymosodiadau yn "dorcalonnus".

Er hynny, mae tystiolaeth fod perchnogion cŵn bellach yn fwy tueddol i roi eu hanifail ar dennyn pan fo da byw gerllaw.

'Diwrnod gwaethaf fy mywyd'

Ym mis Mai 2017, fe gollodd Bryn Davies o Gorwen 18 o ddefaid yn dilyn dau ymosodiad gan gŵn ar braidd sy'n cael eu cadw ar dir rhent ar y Gororau.

Ar un o'r achlysuron hynny, roedd o'n mynd i fwydo'r anifeiliaid pan welodd 12 dafad farw ym mhob cornel o'r cae.

"Dod o hyd i'r defaid fel 'na oedd diwrnod gwaethaf fy mywyd ar y fferm," meddai.

"Ar ol i mi eu hwyna trwy dywydd garw, roedd eu colli nhw fel 'na yn dorcalonnus. Nid dim ond y colli bywyd ond yr holl waith aeth i'w magu nhw."

Yn ôl data NFU Mutual, rhwng Ionawr ac Ebrill - cyfnod wyna - mae ymosodiadau ar ddefaid yn fwyaf tebygol o ddigwydd.

"Er ei bod hi'n dda i glywed fod pobl yn rhoi eu ci ar dennyn tra allan yng nghefn gwlad, mae nifer yr ymosodiadau gan gŵn yn parhau'n uchel," meddai Merfyn Roberts o'r cwmni.

"Rydan ni'n clywed am fwy o gŵn lleol yn dianc o'u cartrefi gyda'u perchnogion un ai ddim yn gwybod neu ddim yn poeni bod eu cŵn yn wyllt ac yn creu hafoc.

"Mae miloedd o ddefaid yn cael eu lladd a'u hanffurfio gan gŵn ac mi fyddwn ni'n cynyddu'n hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o'r broblem, a helpu'r heddlu i ddod â pherchnogion cŵn sy'n ymosod ar dda byw o flaen eu gwell."

'Colli bywoliaeth'

Dywedodd PC Dave Allen, swyddog yn adran Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd, bod angen rhoi cŵn ar dennyn "os oes amheuaeth bod da byw yn y cyffiniau".

"Mae ymosodiadau ar dda byw yn ddinistriol i bawb. Gall ci o unrhyw faint neu oed ymosod ar stoc heb rybudd," meddai.

"Fe allai perchennog yr anifeiliaid golli eu bywoliaeth a gwerth blynyddoedd o stoc. Ac mae risg i berchennog yr anifail anwes golli aelod pwysig o'u teulu, ynghyd â channoedd, neu filoedd, o bunnau mewn iawndal i'r dioddefwr."

Mae cyfanswm y niwed i stoc ffermwyr ar draws y DU tua £1.2m, yn ôl ffigyrau'r cwmni.