Galw ar heddluoedd i gofnodi ymosodiadau cŵn ar anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau i holl heddluoedd y DU ddilyn patrwm Heddlu Gogledd Cymru a chofnodi ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm.
Ers i'r llu sefydlu tîm i ddelio gyda throseddau cefn gwlad yn benodol yn 2013, maen nhw wedi cofnodi 449 o ymosodiadau ar stoc byw.
Ond mae'n anodd deall maint y broblem mewn ardaloedd eraill gan nad oes llawer o ddata.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn ystyried adroddiad diweddar ar y mater gan grŵp o ASau.
Fis Tachwedd eleni daeth Derek Jones o Dremeirchion, ger Llanelwy yn Sir Ddinbych adref o'r farchnad i weld ci ymhlith ei ŵyn benywaidd.
Roedd y ci wedi dianc o dŷ gerllaw ac wedi bod yn ymosod ar y defaid am dros ddwy awr a hanner.
Dywedodd bod "ci wedi bod yn bwrw mewn i'r defaid" a bod nifer wedi cael "difrod go arw a dweud y gwir".
Cytunodd perchennog y ci i dalu iawndal ac fe gafodd y ci ei ddifa, ond mae Mr Jones yn dweud bod angen i berchnogion cŵn gymryd cyfrifoldeb.
"Dyw'r ci ei hun ddim ar fai...perchnogion y cŵn sydd ar fai. Dwi'n cadw ci fi'n hun o dan reolaeth, a dwi'n disgwyl i bawb arall wneud yr un fath."
Yn ôl yr heddwas Dave Allen, sy'n gyfrifol am siroedd Conwy a Dinbych, fe all y tîm gael eu galw i ddau neu dri ymosodiad gan gŵn ar ddefaid, gwartheg, ieir neu geffylau bob wythnos.
Dywedodd bod yr effaith yn gallu bod yn "erchyll", wrth i anifeiliaid gael eu lladd a'u brifo, cŵn yn cael eu saethu, eu perchnogion mewn gofid a bywoliaeth ffermwyr yn y fantol.
Ychwanegodd: "Dyw'r swyddfa gartref ddim ar hyn o bryd yn gorfodi lluoedd heddlu i gofnodi'r ffigyrau yma.
"Mi ydyn ni wedi penderfynu gwneud ein hunain achos fe wnaethon ni sylweddoli yn gyflym bod hyn yn fater o bryder a bod angen i ni gofnodi."
"Gallai fod yn ddioddefwr ar ôl i rywun ddwyn £10 oddi wrtha i a bydd yr heddlu yn cofnodi hynny ac yn anfon y wybodaeth i'r Swyddfa Gartref fel ein bod ni yn gallu cymharu ffigyrau rhwng lluoedd.
"Ond os oes yna ymosodiad ar stoc byw gwerth £5,000, er y gall fy mywoliaeth gael ei ddinistrio, dyw'r ffigyrau hynny ddim yn cael eu cofnodi gan y llywodraeth."
1,866 anifail wedi marw
Ers 2013 mae pedwar llu arall wedi bod yn treialu system recordio dros gyfnod o bedair blynedd, ac mae disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi fis nesaf.
Ond mae data dros dro yn awgrymu bod 1,669 o achosion o bryderu stoc byw wedi eu cofnodi rhwng 2013-17 yn Nyfnaint a Chernyw, Sir Henffordd, Gogledd Sir Efrog, Sussex a Gogledd Cymru.
Cafodd 1,866 o anifeiliaid eu lladd, 1,614 wedi eu hanafu a 92 o gŵn wedi eu saethu.
Ond mae rhai yn dweud nad yw'r canfyddiadau yn adlewyrchu gwir faint y broblem, gyda digwyddiadau'n ymwneud ag anifeiliaid fferm yn cael eu tan-gofnodi.
Mae grŵp ymgyrchu Sheepwatch UK yn darogan bod 15,000 o ddefaid yn cael eu lladd gan gŵn bob blwyddyn.
Dirwy o £1,000
Yn ôl Mr Allen mae angen diweddaru'r gyfraith yn y maes, drwy gynyddu'r dirwyon i rai sy'n troseddu sawl gwaith, a chyfeirio achosion lle mae colledion mawr i Lys y Goron.
Galwodd hefyd am y pŵer i gymryd cŵn oddi wrth eu perchnogion pan mae'r ymosodiad yn digwydd.
Ar hyn o bryd os yw ci yn poeni defaid gall gael ei saethu gan ffermwr a gall y perchennog gael dirwy o hyd at £1,000.
Mae adroddiad gan ASau wedi gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys sicrhau bod "pob digwyddiad, troseddau a chanlyniadau yn cael eu cofnodi a'u rhannu yn genedlaethol".
Roedd yr ASau hefyd yn dadlau bod angen gwneud mwy i addysgu perchnogion cŵn, ac yn galw ar ffermwyr ac awdurdodau lleol i weithredu er mwyn atal ymosodiadau.
Mae seminar dau ddiwrnod ar y mater yn cael ei gynnal yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2017