Ffermwr ar ben ei dennyn wedi ymosodiadau cŵn ar ddefaid

  • Cyhoeddwyd
defaid

Mae ffermwr ym Mro Morgannwg yn ystyried rhoi'r gorau i ffermio gan ei fod yn colli cymaint o ddefaid i ymosodiadau gan gŵn.

Ben Jones yw'r cyntaf o'i deulu i fentro i fyd ffermio, ond eisoes eleni mae wedi colli 18 o ddefaid a gweld 15 arall yn cael eu hanafu mewn ymosodiadau.

Yn ystod y trydydd ymosodiad ar 18 Hydref, fe welodd gi du yn ymosod ar ei ddefaid, a gyrrodd ei gar ato a'i ddychryn i ffwrdd.

Dywedodd Mr Jones nad oedd unrhyw un gyda'r ci, ac mae'n dyfalu mai anifail anwes gafodd ei adael allan o'r cartref oedd e.

Fe gostiodd yr ymosodiad cyntaf £1,800 iddo oherwydd gwerth y stoc a laddwyd, costau milfeddyg a chostau difa'r cyrff.

  • Gorffennaf 2017 - Chwe dafad wedi'u lladd ac wyth wedi'u hanafu;

  • 4 Hydref 2017 - Naw dafad wedi'u lladd a phedair wedi'u hanafu'n ddifrifol;

  • 18 Hydref 2017 - Tair dafad wedi'u lladd a thair arall wedi'u hanafu'n ddifrifol.

Yn gynharach eleni fe wnaeth aelod o dîm arbennig Heddlu'r Gogledd ddweud nad oedd gan blismyn ddigon o bwerau yn y maes, gan nad ydyn nhw'n medru mynd i gartrefi i nôl cŵn sydd wedi bod yn ymosod fel hyn.

Yng ngogledd Cymru mae dros 2,000 o ddefaid wedi eu lladd mewn 500 o ddigwyddiadau gwahanol dros y pedair blynedd diwethaf.

Yn y cyfamser, mae Ben Jones yn poeni am ei ddyfodol fel ffermwr.

Dywedodd mai dim ond tua 100 o ddefaid sydd ganddo, a bod y sefyllfa mor ddrwg bellach fel ei fod yn ystyried rhoi'r gorau i'r gwaith.