'Diffyg prentisiaethau yn y byd amaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r diffyg prentisiaethau mewn amaeth yn bryder mawr, yn ôl un Aelod Cynulliad.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai dim ond 1% o'r prentisiaethau a ddechreuwyd yn 2016/17 a 2017/18 yng Nghymru oedd mewn amaeth.
Mae Andrew RT Davies yn amaethwr ac yn Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Fro Morgannwg ac mae'n dweud: "Mae cael nifer mor isel o brentisiaethau yn boen meddwl mawr.
"Gorau'i gyd faint o wybodaeth sydd gennym yn y sector - mae gwybodaeth ehangach yn rhoi mwy o werth i'r cynnyrch ac yn creu economi sy'n fwy cystadleuol."
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf dim ond 325 o'r 31,360 o brentisiaethau a ddechreuwyd yn 2017/18 oedd mewn amaeth.
Yn y flwyddyn academaidd flaenorol, 2016/17, 225 prentis amaethyddol oedd yna o gyfanswm o 24,115.
Er mai dim ond 1% o brentisiaethau oedd mewn amaeth, mae'r diwydiant yn cynrychioli 4% o holl swyddi Cymru. (Ffynhonnell: Stats Wales)
Er gwaethaf y ffigyrau isel, mae yna newid wedi bod yn y diwydiant.
Ar gampws amaethyddol Coleg Sir Gâr, Fferm Gelli Aur, mae nifer y prentisiaid amaethyddol wedi bron â dyblu dros bedair blynedd.
David Davies yw pennaeth y cwriciwlwm Astudiaethau Tir yn y coleg.
Dywedodd: "Yn draddodiadol, roedd pobol yn dechrau yn y diwydiant cyn mynd lawr y lôn addysg bellach ac addysg uwch.
Nid yw prentisiaethau wedi eu sefydlu yn y diwydiant fel y mae nhw mewn diwydiannau eraill.
"Ond nawr rydym yn gweld twf enfawr wrth i bobl ddeall a sylweddoli buddion o gael prentis.
Ychwanegodd Mr Davies, "Wrth i dechnoleg newid drwy'r amser, mae'r swydd yn mynd llawer yn fwy technegol felly mae'n bwysig bod gan ein dysgwyr ni y sgiliau a'r unig ffordd iddyn nhw gael hynny ydy i gael rhyw fath o hyfforddiant."
Mae Llywelyn Miles, 20, yn brentis yng Ngholeg Sir Gâr. Mae e'n gweithio pedwar diwrnod ar fferm ger Llannon ac ar ddyddiau Gwener mae e'n mynd i Gelli Aur i gael diwrnod yn y dosbarth.
Dywedodd: "Mae e'n rhoi y cyfle i ni ddeall pam ein bod ni'n gwneud be y'n ni'n wneud.
"Mae e'n gwneud synnwr oherwydd rydym ni'n ennill arian wrth weithio a rydym yn cael syniadau a sgiliau newydd wrth weld sut mae ffermwr yn gweithio.
"Fi'n cael sgiliau newydd a mae'r ffermwr sydd yn fy nghyflogi yn gallu fy nhrystio fi i neud y gwaith, a mae e'n gallu mynd ymlaen i wneud rhywbeth arall."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2017