Y mis Chwefror poethaf ar gofnod yn y Deyrnas Unedig

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o drigolion Aberystwyth yn manteisio ar y tywydd braf ddydd Llun

Y tymheredd o 20.3C gafodd ei gofnodi yn Nhrawsgoed, Ceredigion ddydd Llun yw'r uchaf ar gofnod ym mis Chwefror, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Dyma'r tro cyntaf i dymheredd o dros 20C gael ei gofnodi yn ystod misoedd y gaeaf.

Y record flaenorol yng Nghymru oedd 18.6C - gafodd ei gofnodi yn Felindre 29 mlynedd yn ôl.

Roedd y tymheredd wedi cyrraedd 18C mewn sawl ardal o Gymru ar ddydd Sul hefyd.