Ceidwadwr eisiau oedi Brexit wrth i Lafur agosáu at bleidlais arall
- Cyhoeddwyd
Dylai'r DU oedi am ddeufis cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd os nad yw Senedd San Steffan wedi cymeradwyo cytundeb erbyn 13 Mawrth, yn ôl AS Ceidwadol o Gymru.
Mae Simon Hart yn ystyried cyflwyno newid i'r Mesur Ymadael fyddai'n gohirio Brexit nes 23 Mai.
Daw wrth i'r Blaid Lafur Brydeinig gyhoeddi y byddai'n cefnogi refferendwm arall i osgoi "Brexit niweidiol y Ceidwadwyr".
Byddai cynllun Mr Hart i ymestyn Erthygl 50 â "therfyn amser penodol", ond mae'r Prif Weinidog Theresa May yn mynnu ei bod yn canolbwyntio ar adael yr UE ar 29 Mawrth, gan wfftio galwadau o fewn ei phlaid ei hun i oedi.
'Brexit yn diflannu'n llwyr'
Bydd cyfle arall i ASau gynnig gwelliannau i'r Mesur Ymadael yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
Ar hyn o bryd bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth, boed hynny gyda chytundeb ai peidio.
Dywedodd Mr Hart, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro: "Beth ry'n ni'n ceisio gwneud yw gweld os oes 'na unrhyw ASau eraill sy'n bryderus am weld Brexit yn diflannu'n llwyr, pryderus am weld terfyn amser penagored, ac sydd eisiau rhoi amser penodol ar adael.
"Ry'n ni wedi awgrymu 23 Mai, ond mae hynny'n hyblyg er mwyn rhoi rhagor o amser i ddod i gytundeb, ond hefyd amser ychwanegol os oes angen i ni ddelio â Brexit heb gytundeb."
Llafur i gefnogi refferendwm arall
Cyhoeddodd Llafur brynhawn Llun y byddai'n cefnogi refferendwm arall er mwyn osgoi Brexit "niweidiol" y Ceidwadwyr.
Mae disgwyl i'r arweinydd Jeremy Corbyn ddweud wrth ASau Llafur y byddai'r blaid yn cefnogi refferendwm arall os ydy cynllun Brexit amgen y blaid yn cael ei wrthod gan Dŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
Dywedodd y blaid hefyd y byddai'n cefnogi gwelliant Yvette Cooper a Syr Oliver Letwin ddydd Mercher, sy'n ceisio atal Brexit heb gytundeb.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan aelodau Cymreig fel Owen Smith, a ddywedodd mai dyma oedd y "polisi cywir".
Dywedodd AS Pontypridd: "Dwi wrth fy modd bod Jeremy Corbyn nawr yn cytuno y dylwn ni roi Brexit yn ôl i'r bobl.
"Dyna'r polisi cywir i Lafur. Dyna oedd o erioed."
Ychwanegodd AS Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin, bod y penderfyniad yn "galonogol iawn" ac yn "symudiad i'w groesawu".
Beth fyddai'r cwestiwn?
Ond mae aelodau Llafur eraill fel AS Aberafan wedi cwestiynu os mai refferendwm arall ydy'r "ffordd orau i fynd".
Dywedodd Stephen Kinnock bod ganddo bryderon oherwydd "natur rwygol pleidlais o'r fath", yr effaith posib ar "sofraniaeth a rôl y Senedd", a gan "nad yw'n glir beth fyddai'r cwestiwn ar y papur pleidleisio".
Er hynny, dywedodd ei fod yn falch y byddai siawns i'r Senedd leisio eu barn ar y mater.
Y Llefarydd fydd yn dewis pa welliannau fydd yn cael eu cyflwyno ar lawr Tŷ'r Cyffredin, ac yna bydd pleidlais ar y rheiny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019