'Rhaid gohirio Erthygl 50 i osgoi Brexit di-gytundeb'
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidogion Cymru a'r Alban yn galw ar Theresa May i ddatgan yn glir nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn, ac i ofyn am ohirio Erthygl 50 - y broses gyfreithiol sy'n caniatáu i wlad adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mewn datganiad ar y cyd, mae Mark Drakeford a Nicola Sturgeon hefyd yn pwyso ar brif weinidog y DU i ollwng "ei llinellau coch" gan fod yr UE "wedi dweud dro ar ôl tro" eu bod yn "cyfyngu'n ddifrifol ar ganlyniadau posib Brexit".
Daeth yr alwad wrth i Mrs May deithio i Frwsel i geisio sicrhau newidiadau cyfreithiol i'r cytundeb ymadael y mae hi eisoes wedi ei daro gyda'r UE.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns mae Mrs May "yn agos iawn at sicrhau cytundeb - ar yr amod bod yr Undeb Ewropeaidd yn fodlon symud".
Dywed Mr Drakeford a Ms Sturgeon yn eu datganiad: "Rydym wedi cyrraedd pwynt lle nad oes unrhyw amser i'w wastraffu. Rydym felly yn galw unwaith eto ar Brif Weinidog y DU i ddweud yn glir y bydd hi a'i Llywodraeth yn sicrhau nad yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn o gwbl.
"Dylai hyn gynnwys cyflwyno is-ddeddfwriaeth nawr i ddileu'r cyfeiriad at 29 Mawrth 2019 fel Diwrnod Ymadael o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)."
"Rhaid i Brif Weinidog y DU hefyd ofyn am estyniad i Erthygl 50. Rydym yn galw ar Brif Weinidog y DU i ofyn am estyniad o'r fath ar unwaith i roi diwedd ar y bygythiad o weld y DU yn cael ei rhwygo o'r UE heb gytundeb mewn wyth wythnos."
'Ddim yn barod o gwbwl'
Cafodd llywodraethau Cymru a'r Alban wahoddiad am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf i fod yn bresennol yng nghyfarfod pwyllgor cabinet Llywodraeth y DU, ac yn ôl Mr Drakeford a Ms Sturgeon mae'r "holl dystiolaeth a welwyd gennym hyd yma yn awgrymu nad yw'r DU yn barod o gwbl ar gyfer Brexit heb gytundeb mewn llai na dau fis".
Mae Mrs May yn gobeithio sicrhau digon o newidiadau ym Mrwsel ddydd Iau i gael digon o gefnogaeth i'w chytundeb ymhlith Aelodau Seneddol, a hynny ar ôl treulio dau ddiwrnod yng Ngogledd Iwerddon yn trafod ffyrdd o osgoi ffin galed gyda Gweriniaeth Iwerddon.
Mae'r ddau arweinydd yn ychwanegu: "Yn frawychus ar y funud olaf hon... mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn medru nodi o hyd beth yn union yw'r "trefniadau amgen" i'r cynllun wrth gefn ar gyfer Iwerddon a fyddai, mae'n debyg, yn caniatáu i Dŷ'r Cyffredin bleidleisio dros y cytundeb.
"Mae'r UE wedi ymrwymo'n llwyr i'r cynllun wrth gefn yn Iwerddon, ac yn dweud na fydd yn ailagor y drafodaeth."
Dywedodd Mr Cairns ddydd Mercher ei fod yn credu bod dealltwriaeth newydd yn bosib "os yw'r Undeb Ewropeaidd yn fodlon symud yn yr un modd ag yr ydym ni wedi symud mewn sawl maes".