Apêl wedi marwolaeth prifathro 'deinamig' yn y Bannau

  • Cyhoeddwyd
David BownFfynhonnell y llun, Ysgol Saint Nicholas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Bown yn bennaeth poblogaidd, yn ôl datganiad ar ran yr ysgol lle roedd yn gweithio

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wedi i bennaeth ysgol farw ar ôl cael ei daro gan gar wrth iddo gerdded ym Mannau Brycheiniog.

Roedd David Jonathan Bown, 50, yn cerdded ar ffordd rhwng Dolygaer a Phontsticill tua 18:30 nos Wener pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad gyda char Hyundai Terracan.

Cafodd criw ambiwlans eu galw i'r safle ond bu farw yn y fan a'r lle er gwaethaf ymdrechion i'w adfer.

Roedd Mr Bown yn hanu o Gymru ac wedi dychwelyd i'r wlad i wylio'r tîm rygbi cenedlaethol yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf, yn ôl datganiad ar ran yr ysgol yn Essex lle roedd yn brifathro.

Mae datganiad Ysgol Saint Nicholas yn Old Harlow yn dweud ei fod yn briod gyda mab yn ei arddegau, ac mai cerdded gyda'i fab roedd e pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

"Roedd David yn bennaeth deinamig gyda gweledigaeth ac yn boblogaidd eithriadol ymhlith y plant, y rheini a'i gydweithwyr," meddai'r ysgol.

Dywed yr heddlu bod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deulu Mr Bown.

Roedd y B4558 ar gau yn ardal Talybont am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad.

Mae'r uned plismona ffyrdd lleol yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn yr ardal dan sylw o gwmpas 18:30 ar 22 Chwefror.