Ateb y Galw: Y gantores Marged Siôn
- Cyhoeddwyd

Y gantores Marged Siôn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Sion Alun Davies yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Perfformio yn y capel.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Chad Michael Murray.

Chad Michael Murray oedd 'heart-throb' nifer o ffilmiau a chyfresi Americanaidd ddechrau'r 2000au
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Fflasho Mam a Dad pan o'n i 'di meddwi...
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pythefnos yn ôl.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
'Smygu.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Gymaint o ddewis ond ma' Caerdydd yn ennill bob tro. Gormod o atgofion i ddewis ohonynt o'r amser lle ges i'n fagu yna.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Nosweithiau yn Ibiza.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Sensitif. Gweithgar. Ffrind.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
The Godfather. Dwli ar wisgoedd y merched a'r gerddoriaeth, yn enwedig y ffilm cynta'.

Mae yna dair ffilm yng nghyfres 'The Godfather', sy'n sôn am deulu troseddol yn Efrog Newydd
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Andre 3000 i siarad am ei broses greadigol - un o'r goreuon yn fy marn i.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i radd 8 mewn Llais Clasurol/Opera, Piano a Telyn.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Meddwi, bwyta, canu.
Beth yw dy hoff gân a pham?
James Taylor - Millworker (Live). Cofio gwrando ar y gân yma a'r holl albym wrth yrru i Ffrainc neu'r Eidal bob blwyddyn ar wyliau teulu.

Mae gan James Taylor lai o wallt nag oedd ganddo ar ddechrau ei yrfa yn yr 1960au, ond mae ei lais hyfryd dal ganddo
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Spring Rolls, Pho Vietnamese, Margarita.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
Serena Williams.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Eädyth