Marwolaeth Sala: Heddlu'n ymchwilio i gwynion gan glwb Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i gwynion a wnaed gan Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn sgil marwolaeth Emiliano Sala.
Daw hyn yn dilyn adroddiad papur newydd ddydd Sul sy'n honni bod y cyn-asiant chwaraeon Willie McKay wedi bygwth swyddogion y clwb.
Mab Mr McKay, Mark, oedd asiant Nantes yn y ddêl i ddod â'r pêl-droediwr - a fu farw mewn damwain awyren ym mis Ionawr - i Gymru.
Mae Willie McKay yn gwadu'r honiadau.
Dywedodd y Sunday Telegraph fod y bygythiadau honedig wedi'u gwneud ar benwythnos angladd Sala yn yr Ariannin fis diwethaf.
Mewn datganiad byr, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod cwyn wedi dod i law o Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac ar hyn o bryd mae'n cael ei ymchwilio."
Dywedodd y clwb ei bod hi'n "angenrheidiol ac yn briodol i Heddlu De Cymru ymwneud â'r mater".
"Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd," ychwanegodd y clwb.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Mr McKay wrth y BBC ei fod yn teimlo bod y clwb wedi "cefnu" ar Sala a'i fod wedi gorfod trefnu ei drafnidiaeth ei hun ar ôl arwyddo i'r Adar Gleision.
Mae'r clwb yn gwadu'r honiadau yn chwyrn.
Cafwyd hyd i gorff Emiliano Sala yng ngweddillion yr awyren ar wely Môr Udd ar 4 Chwefror, 13 diwrnod ar ôl i'r Piper Malibu N264DB ddiflannu.
Mae'r peilot, David Ibbotson, yn dal ar goll.
Daeth i'r amlwg ddydd Sadwrn bod Mr Ibbotson wedi rhoi'r gorau i'r hyfforddiant er mwyn cael ei drwydded beilot fasnachol cyn diwedd y cwrs.
Mae'r adroddiad cychwynnol gan Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr wedi datgelu nad oedd gan Mr Ibbotson drwydded beilot fasnachol.
Mae'r gwaith o chwilio am gorff Mr Ibbotson yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019