Peilot Emiliano Sala wedi 'tynnu 'nôl o hyfforddiant'

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emiliano Sala ar yr awyren oedd yn cael ei hedfan gan y peilot, David Ibbotson

Roedd peilot yr awyren a ddiflannodd gydag ymosodwr Caerdydd, Emiliano Sala arni gydag amcanion i gael trwydded peilot fasnachol ond fe dynnodd 'nôl o'r hyfforddiant cyn diwedd y cwrs, yn ôl adroddiad.

Mae'r adroddiad cychwynnol gan Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr wedi datgelu nad oedd gan David Ibbotson drwydded peilot fasnachol.

Cafwyd hyd i gorff Sala yng ngweddillion yr awyren ar wely Môr Udd ar 6 Chwefror.

Nid yw corff Mr Ibbotson wedi'i ddarganfod hyd yma.

Yn ôl yr adroddiad, mae llyfr cofnodion Mr Ibbotson - sy'n cadw cofnod o'i holl hediadau - a'i drwydded wedi mynd ar goll yn dilyn y ddamwain.

'Rhannu'r gost'

Doedd Mr Ibbotson ddim yn gymwys i gludo teithwyr o fewn yr UE, os nad oedd hynny ar ffurf "rhannu'r gost" yn hytrach na'i fod yn cael ei dalu am hedfan.

Mae'r asiant pêl-droed, Willie McKay, wnaeth drefnu'r daith ar ran Sala, wedi dweud nad oedd hi'n daith ble roedd y gost wedi cael ei rhannu, gan godi cwestiynau os oedd hi'n hediad cyfreithlon.

Willie McKayFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Yr asiant pêl-droed, Willie McKay wnaeth drefnu'r daith i Emiliano Sala

Dywedodd Mr McKay wrth y BBC bod Sala "ddim yn talu unrhyw beth" a'i fod am dalu "beth bynnag oedd Dave [Henderson] yn ei godi".

Fe gadarnhaodd Mr McKay ei fod wedi trefnu hediad Sala i Gaerdydd drwy David Henderson - peilot profiadol oedd wedi ei hedfan ef a nifer o chwaraewyr eraill "ar hyd a lled Ewrop ar sawl achlysur".

Doedd Mr McKay ddim yn berchen ar yr awyren a dywedodd nad oedd yn ymwybodol pwy fyddai Mr Henderson yn gofyn i fod yn beilot ar gyfer yr hediad.

'Damwain drasig'

"Fe ddywedodd nad oedd yn gallu gwneud y daith, ond ei fod am gael rhywun arall. Roedd gen i ffydd yn David - doedd gen i ddim rheswm i beidio," meddai Mr McKay.

"Pan dy'ch chi'n ffonio tacsi dydych chi ddim yn gofyn iddo os oes ganddo drwydded yrru. Yr unig beth oedd ar fy meddwl i oedd cael y bachgen adref, a ry'n ni'n hapus gyda beth wnaethon ni.

"Rydw i wedi clywed ei fod yn beilot da iawn, ac mae'r ffaith fod pobl yn pardduo ei enw yn dilyn ei farwolaeth yn warth.

"Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn gyfrifol. Damwain drasig oedd hi."

Mae Mr Henderson wedi gwrthod cais gan BBC Cymru am ymateb.

Mae BBC Cymru wedi deall fod Mr Ibbotson wedi astudio am drwydded peilot fasnachol o fis Rhagfyr 2012 nes mis Gorffennaf 2014 drwy Ysgol Awyr Cranfield yn Luton, ond fe dynnodd yn ôl o'r cwrs cyn cymhwyso.

Dywedodd pennaeth hyfforddi'r ysgol, Dr Stuart E Smith fod Mr Ibbotson wedi dychwelyd yn 2016 gyda'r bwriad o barhau gyda'i hyfforddiant, ond ni wnaeth fwrw ymlaen â hynny.

Ychwanegodd ei fod wedi anfon adroddiad at yr Awdurdod Awyrennau Sifil (CAA) yn dilyn y ddamwain.

Piper MalibuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr awyren Piper Malibu wedi'i chofrestru yn yr Unol Daleithiau

Roedd yr awyren Piper Malibu wedi'i chofrestru yn yr Unol Daleithiau, ble mae rheolau yn datgan fod defnyddio awyren y tu allan i'r wlad honno yn dibynnu ar ganiatâd gan y CAA yn gyntaf.

Doedd neb wedi gofyn caniatâd cyn taith Mr Ibbotson a Sala.

'Gadael i lawr'

Mae Martin Robinson, sy'n brif weithredwr Cymdeithas Perchnogion Awyrennau a Pheilotiaid wedi dweud fod y grŵp yn bryderus am y defnydd o awyrennau o dramor yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith tacsi yn yr awyr.

"Mae siarter awyr y DU yn talu arian mawr i'r llywodraeth ar gyfer Tystysgrifau Defnyddwyr Awyr. Heb y rhain does dim modd rhedeg hediadau tacsi na rhai masnachol," meddai.

"Cyfrifoldeb y person sy'n archebu'r hediad yw sicrhau fod peilot sy'n gymwys i hedfan wrth y llyw a sicrhau fod gan y peilot y profiad cyiwr o ran oriau hedfan.

"Ni fyddai Mr Sala fod wedi bod yn ymwybodol o drwydded David Ibbotson, ond fe ddylai'r person wnaeth archebu'r hediad.

"Maen nhw wedi gadael y dyn yma lawr."

Mae'r gwaith o chwilio am gorff Mr Ibbotson yn parhau.