Caerdydd wedi 'cefnu' ar Sala medd cyn asiant pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a Willie McKayFfynhonnell y llun, Getty Images/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Willie McKay (dde) oedd yn gyfrifol am drefnu'r awyren aeth ar goll dros Fôr Udd ble bu farw Emiliano Sala (chwith)

Fe wnaeth CPD Caerdydd "gefnu" ar Emiliano Sala ac roedd rhaid iddo drefnu ei drafnidiaeth ei hun ar ôl arwyddo i'r Adar Gleision, yn ôl cyn asiant pêl-droed.

Willie McKay oedd yn gyfrifol am drefnu'r awyren aeth ar goll dros Fôr Udd ble bu farw Sala ym mis Ionawr.

Roedd mab Willie McKay, Mark, yn gweithio fel asiant oedd yn cynrychioli Nantes i geisio sicrhau trosglwyddiad Sala i Gaerdydd am £15m.

"Roedd wedi ei adael mewn gwesty mwy neu lai i wneud ei drefniadau teithio ei hun," meddai Willie McKay.

'Bai ar gam'

Mae Caerdydd eisoes wedi cadarnhau eu bod wedi cynnig trefnu hediad masnachol cyn y ddamwain.

Nid yw Willie McKay yn asiant cofrestredig. Pan ofynnwyd iddo pam ei fod wedi ymwneud â throsglwyddiad Sala i Gaerdydd, fe atebodd ei fod yn "helpu ei fab".

Cafwyd hyd i gorff Emiliano Sala yng ngweddillion yr awyren ar wely'r môr, 13 diwrnod ar ôl i'r Piper Malibu N264DB ddiflannu.

Dywedodd Willie McKay: "Dwi'n difaru mynd i'w wylio'n chwarae. Mi fase'n well gennai petawn i erioed wedi clywed amdano yn y lle cyntaf."

Wrth siarad gydag adran chwaraeon y BBC, dywedodd Mr McKay eu bod wedi cael "bai ar gam".

Yn y cyfweliad mae'r tad a'r mab hefyd yn dweud:

  • Eu bod wedi dod i wybod am ddiflaniad Sala yn dilyn galwad ffôn gan reolwr Caerdydd, Neil Warnock;

  • Mai nhw dalodd y cyfanswm am drefniadau teithio Sala;

  • Ni fyddan nhw'n gofyn i Nantes am arian sy'n ddyledus iddyn nhw am fod yn froceriaid ar gyfer y trosglwyddiad;

  • Mae'r ddamwain wedi gwneud i Mark McKay gwestiynu ei ddyfodol yn y diwydiant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Willie McKay yn dweud ei fod wedi clywed am ddiflaniad Emiliano Sala yn dilyn galwad ffôn gan reolwr Caerdydd, Neil Warnock

Fe wrthododd CPD Caerdydd wneud unrhyw sylw ddydd Iau.

Fe gadarnhaodd Willie McKay ei fod wedi trefnu hediad Sala i Gaerdydd drwy David Henderson - peilot profiadol oedd wedi ei hedfan o a nifer o chwaraewyr eraill "ar hyd a lled Ewrop ar sawl achlysur".

Doedd McKay ddim yn berchen ar yr awyren a dywedodd nad oedd yn ymwybodol pwy fyddai Henderson yn gofyn i fod yn beilot ar gyfer yr hediad.

Ychwanegodd Willie McKay: "Doedd neb yng Nghaerdydd yn ymddangos fel eu bod yn gwneud unrhyw beth. Roedd yn embaras o safbwynt Caerdydd.

"Maen nhw'n prynu chwaraewr am €17m ac wedyn ei adael mewn gwesty ar ei ben ei hun i fynd ar y cyfrifiadur i chwilio am awyren... dwi'n credu fod Caerdydd wedi ei adael ei lawr yn ofnadwy.

"Mae'r ffordd maen nhw wedi ymddwyn hyd yn hyn yn warthus," meddai.

'Gwarthus'

Ym mis Ionawr, dywedodd Caerdydd wrth y BBC nad oedd ganddyn nhw awyren breifat ar gyfer chwaraewyr, felly doedd dim modd iddyn nhw fod wedi gallu trefnu ei hediad o Nantes.

Ychwanegodd y clwb y dylai'r "awdurdodau perthnasol allu dod i gasgliad o ran y ffeithiau am y drasiedi yma".

Yn ddiweddar mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â thrwydded y peilot David Ibbotson, ac mewn adroddiad cychwynnol fe gadarnhaodd y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr nad oedd ganddo drwydded ar gyfer hediadau masnachol, ac mai dim ond o fewn gwledydd mewndirol yr UE oedd yn cael hedfan teithwyr eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i weddillion yr awyren ar wely'r môr Udd 13 niwrnod ar ôl iddi ddiflannu

Yn ôl Mr McKay doedd dim cytundeb i rannu'r gost gan "nad oedd Emi yn talu unrhyw beth " a'i fod am dalu "beth bynnag oedd Dave [Henderson] yn ei godi.

"Pan rydych yn ffonio am dacsi, dydych chi ddim yn gofyn wrth y gyrrwr os oes ganddo drwydded.

"Y cyfan oedd ar fy meddwl oedd cael y bachgen adref ac roeddwn yn fodlon gyda'r hyn a wnaethom.

"Rwyf wedi cael clywed o ffynhonell dda ei fod o [David Ibbotson] yn beilot da iawn, felly mae'n warthus fod pobl yn ei bardduo yn dilyn ei farwolaeth.

"Dwi ddim yn rhoi y bai ar neb gan mai damwain drasig oedd hi," meddai.

'Arian ddim yn bwysig'

Mae Willie McKay yn honni fod Nantes i fod i dalu ei fab £1.5m am y trosglwyddiad, ond "ni fydden nhw'n gofyn am y swm hwnnw ar hyn o bryd".

"Nid yw hyn am arian, mae'r cyfan am fywyd dau berson sydd wedi cael eu colli.

"Rydych yn fodlon colli £1.5 yn y fath amgylchiadau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Willie Mckay mae hi'n warthus fod rhai pobl yn "pardduo" enw'r peilot David Ibbotson (dde) yn dilyn y ddamwain

Roedd wythnosau wedi'r ddamwain yn "anodd iawn, iawn" i Mr McKay a'i deulu.

Mae Mark McKay wedi cyfaddef ei fod yn cwestiynu ei ddyfodol fel asiant pêl-droed, ond ychwanegodd nad dyma'r amser iawn i drafod hynny.