Caniatâd am adolygiad barnwrol i gwest Carl Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw ar ôl cael ei ddiswyddo fel gweinidog

Mae cyn-brif weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cael caniatâd am adolygiad barnwrol yn ymwneud â'r cwest i farwolaeth Carl Sargeant.

Mae Mr Jones yn herio penderfyniad y crwner i beidio ystyried tystiolaeth gan arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, a'i ddirprwy, Bernie Attridge.

Cafodd cais am adolygiad barnwrol ei wrthod ym mis Ionawr, ond yn eistedd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth fe wnaeth Barnwr yr Uchel Lys, Mr Ustus Andrew Baker roi caniatâd iddo.

Fe gafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ym mis Tachwedd 2017, bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan Mr Jones fel gweinidog Llywodraeth Cymru.

Roedd yn wynebu honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at ferched.

Daeth y cwest, sydd wedi'i ohirio nes mis Gorffennaf, i ddyfarniad cychwynnol bod Mr Sargeant wedi marw achos crogi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones yn herio penderfyniad y crwner i beidio ystyried tystiolaeth gan Aaron Shotton a Bernie Attridge

Dywedodd cyfreithiwr Mr Jones, Cathryn McGahey, na fyddai'r crwner John Gittins ag "unrhyw wybodaeth am beth oedd yn poeni ef [Mr Sargeant]" heb dystiolaeth Mr Shotton a Mr Attridge.

Yn y cwest, dywedodd bod Mr Shotton wedi cyflwyno tystiolaeth oedd yn gwrthddweud yr hyn ddywedodd Mr Attridge.

Mae tîm cyfreithiol Mr Jones eisiau negeseuon rhwng y ddau i gael eu cynnwys yn y cwest.

Does dim dyddiad wedi'i osod eto ar gyfer yr adolygiad barnwrol.