Dyn ifanc wedi syrthio i'w farwolaeth o draphont ddŵr
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod dyn ifanc 18 oed wedi syrthio 120 troedfedd i'w farwolaeth ar ôl i un o reiliau haearn ar draphont ddŵr Pontcysyllte ddod yn rhydd yn ei law.
Bu farw Kristopher McDowell o Gefn Mawr, ger Wrecsam, ar 31 Mai 2016.
Wrth amlinellu cefndir yr hyn ddigwyddodd, dywedodd y crwner John Gittins wrth y rheithgor yn Rhuthun fod Kris gyda'i ffrindiau pan ddaeth un o'r rheiliau yn rhydd wrth iddo ei ddal gyda'i law.
Dywedodd y crwner ei bod yn bosib fod yna elfen o ffolineb am ei weithredoedd ond hefyd bod angen ystyried: "Sut oedd yn bosib i hyn ddigwydd? Sut mae'r pethau hyn yn cael eu harolygu?"
Clywodd y cwest fod Kris wedi cwrdd â thri o'i ffrindiau ar ôl gorffen shifft hŵyr ym mwyty McDonald's yn Y Waun.
Roedd un o'r ffrindiau wedi dweud ei fod ofn mannau uchel.
'Dal yma heddiw'
Dywedodd Alex Mcloud, un arall o'r ffrindiau: "Yna fe wnaeth Kris ddechrau gwthio ei gorff drwy fwlch yn y rheiliau."
Ychwanegodd i un ohonynt weiddi ei fod wedi diflannu ac yna fe glywodd sŵn ei gorff yn taro'r ddaear.
Mewn tystiolaeth ysgrifenedig dywedodd un arall o'i ffrindiau, Jordan Evans iddo glywed Kris yn dweud "dwi ddim ofn" hongian oddi ar yr ochr.
Fe wnaeth y cwest hefyd glywed gan fam Kris, Samantha McDowell, ddywedodd ei bod yn gwybod fod ei mab wedi bod yn "wirion" ond ychwanegodd na ddylai "Kris na unrhyw un arall fod wedi bod yn gallu mwyn drwy'r bwlch".
Yna ei barn hi, pe na bai'r bar haearn wedi gallu dod yn rhydd yna byddai "Kris dal yma heddiw".
Dywedodd Mr Gittins wrth y cwest nad lle'r rheithgor yw dweud pwy oedd ar fai ond eu bod yno i ddarganfod y ffeithiau.
Mae disgwyl i'r gwrandawiad ddod i ben ddydd Mercher.