Difrod 'mochynnaidd ac amharchus' mewn ysgol gynradd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddifrod mewn ysgol gynradd yng Ngwynedd.
Fe ddisgrifiodd pennaeth Ysgol Waunfawr ger Caernarfon y digwyddiad fel un "mochynnaidd ac amharchus".
Pan gyrhaeddodd Gwenan Williams yr ysgol fore Llun, roedd offer addysgu'r cyfnod sylfaen wedi'u dinistrio, a'r sawl oedd yn gyfrifol wedi baeddu a'i daflu o amgylch yr iard.
Dywedodd Ms Williams: "Ers 18 mlynedd o weithio yn yr ysgol yma, dydw i erioed wedi dod ar draws dim byd mor fochynnaidd â hyn."
'Tair awr i lanhau'
Ychwanegodd: "Mae cymorthyddion wedi cymryd tair awr i lanhau ar ôl y sawl sy'n gyfrifol ar ôl iddyn nhw faeddu mewn bwced a'i daflu ar hyd yr iard.
"Mae llawr pwrpasol sydd gennym ni wedi'i osod ar yr iard i ddiogelu'r plant, ac fe gostiodd £3,500.
"Roedd y baw wedi sticio i'r defnydd rwber felly roedd yn rhaid i ni ei lanhau gyda jet wash cyn gadael y plant allan i chwarae."
Bellach mae'r ysgol yn ymgyrchu i gael camerâu cylch cyfyng o amgylch yr adeilad i geisio rhwystro digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Ym Mhenygroes, tua wyth milltir o'r Waunfawr, roedd digwyddiad tebyg yng nghylch meithrin y pentref.
Yn ôl arweinydd y cylch, Llinos Jones, roedd rhywun wedi dod fewn i'r iard ar safle Ysgol Bro Lleu i ddifrodi bwrdd du oedd yn cael ei ddefnyddio'n ddyddiol gan y plant.
Dywedodd Ms Jones fod y bwrdd wedi costio £400, ac roedd y 35 o blant rhwng dwy a phedair oed sy'n mynychu'n ddyddiol "wrth eu boddau" yn ei ddefnyddio.
"Roedd y plant i gyd yn drist a ddim yn deall pam nad oedden nhw'n cael chwarae gyda' bwrdd," meddai.
"Mae'n amlwg yn weithred fwriadol gan fod ochrau'r bwrdd wedi'i dorri a'r gweddillion ar y llawr. Mae'n dorcalonnus fod y plant yn colli allan."
'Heddlu'n ymchwilio'
Fe gadarnhaodd Ms Jones hefyd nad oedden nhw wedi cysylltu gyda'r heddlu ynglŷn â'r difrod.
Does dim lle i gredu fod y digwyddiad ym Mhenygroes yn gysylltiedig â'r rhai yn Y Waunfawr.
Ychwanegodd Ms Jones: "Rydym yn ddiolchgar i un o'r rhieni ei fod wedi cytuno i osod bwrdd newydd am ddim i'r plant allu ei ddefnyddio."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r heddlu'n ymchwilio i bedwar digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol mewn eiddo, gan gynnwys yr ysgol yn Waunfawr.
"Y gred yw bod y digwyddiadau i gyd wedi digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol yr wythnos ddiwethaf.
"Os oes gan unrhywun fanylion ynglŷn â'r digwyddiadau, rydym yn gofyn i chi gysylltu gyda swyddogion ym Mhenygroes."