Ymlediad clefyd coed ynn bellach yn 'drasiedi' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Haint coed ynnFfynhonnell y llun, Peter Llewellyn/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae haint coed ynn yn gallu niweidio boncyffion coed sydd wedi eu heffeithio

Gall BBC Cymru ddatgelu bod ffwng marwol yn lledu "yn fwy cyflym ac yn fwy niweidiol" drwy goed ynn Prydain nag yr oedd arbenigwyr wedi ei ragweld.

Bydd angen cwympo miliynau o goed heintus, yn enwedig rhai sy'n tyfu yn ymyl adeiladau, ffyrdd a rheilffyrdd.

Rhybuddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y byddai yna "sgil-effaith sylweddol iawn" ar ymddangosiad y tirlun.

Mewn ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn sefydlu grŵp arbenigol i gynghori ar y mater.

'Trasiedi'

Mae tirfeddianwyr eisoes yn gorfod talu miloedd o bunnoedd i logi torwyr coed, goleuadau traffig dros dro ac offer arall i ddelio â'r broblem.

Fe ddisgrifiodd un y sefyllfa fel "trasiedi".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin Hogg, perchennog Ystad Pen-bont, wedi gweld effaith y clefyd ar goed ynn ar ei dir

Mae Gavin Hogg, sy'n berchen ar Ystâd Pen-bont ger Aberhonddu, yn dweud bod yr holl goed ynn ar ei 2,000 erw o dir yn dangos arwyddion o'r clefyd.

Does dim modd gwella ohono - mae'n lladd planhigion ifainc ac yn gwanhau hen goed, gan olygu eu bod nhw'n fwy bregus i gael eu taro gan heintiau eraill.

'Endemig'

Mae Mr Hogg eisoes wedi cwympo 75 o goed oedd yn agos i brif ffordd.

"Mae gennym ni gymaint o broblem yma mae'n rhaid i ni ddelio â'r agwedd o ddiogelwch i'r cyhoedd yn gyntaf," meddai.

"Yn lle'r cynllun rheoli coed arferol sydd gennym ni yn ei le, ry'n ni bellach yn ymateb i greisis gyda choed yn cael eu clustnodi fel rhai peryglus ac yn gorfod cael eu torri i lawr."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Wrth orfod cwympo coed sy'n dioddef o afiechyd, mae CNC yn rhybuddio y bydd yn newid ymddangosiad y tirlun

Mae Cymru wedi'i tharo'n arbennig o wael gan glefyd coed ynn, gafodd ei ddarganfod am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 2012.

Dangosodd arolwg diweddar - wnaeth rannu'r DU i sgwariau grid o 10km - fod yr haint wedi'i ddarganfod ar draws 80% o Gymru, 68% o Loegr, 32% o Ogledd Iwerddon, a 20% o'r Alban.

Yn ôl Dr Chris Jones, swyddog gwarchod coed gyda CNC, mae bellach yn "endemig".

"Ry'n ni'n ffeindio'r haint mewn fforestydd, ry'n ni'n ei ffeindio mewn coed ar ymyl ffyrdd, ry'n ni'n ei ffeindio mewn perthi a chloddiau ar hyd a lled Cymru."

Dywedodd ei bod hi'n bwysig i dirfeddianwyr - gan gynnwys awdurdodau lleol - ddechrau cynllunio a pharatoi i gyllido unrhyw waith torri coed fydd ei angen.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sonia Winder o gwmni Tillhill ei bod yn derbyn galwadau cynyddol yn gofyn am gyngor ynglŷn â chlefyd coed ynn

Eglurodd Sonia Winder o gwmni coedwigaeth Tillhill fod gwell gan goed ynn bridd dwfn a hinsawdd wlyb sy'n golygu eu bod nhw wedi gwneud yn dda yng Nghymru.

Mae'r cwmni'n gyfrifol am 20,000 hectar o goedtir ac yn derbyn galwadau cynyddol gan gleientiaid i gynghori ynglŷn â'r chlefyd.

"Dwi'n credu bod pawb wedi'u synnu tamaid bach gan ba mor gyflym mae hyn wedi lledu a pha mor bell mae wedi lledu," meddai.

"Yn fwy cyflym ac yn fwy niweidiol nag yr oeddem ni wedi rhagweld yn y dechrau.

"Os oes gyda chi goed sydd yn agos at adeiladau, ysgolion neu ffyrdd yna ry'ch chi'n edrych ar orfod eu cwympo nhw.

"Gallai hynny fod yn ddrud iawn ac ar y funud does 'na ddim help gan Lywodraeth Cymru nac unrhyw un arall i helpu a'r costau rheini."

Ychwanegodd Ms Winder fod clefyd coed ynn bellach wedi cyrraedd lefel lle allai gael ei gymharu â chlefyd llwyfen o'r Iseldiroedd, arweiniodd at golli'r rhan helaeth o goed llwyfen ym Mhrydain yn y 1960au, 70au ac 80au.

Fel rhywogaeth eiconig, adnabyddus, sydd i'w ganfod mewn parciau cyhoeddus a gerddi ar hyd a lled y wlad, fe ddywedodd y byddai colli coed ynn yn cael "effaith sylweddol".

Pwysigrwydd i fywyd gwyllt

Dywedodd elusen Coed Cadw na ddylai pwysigrwydd y rhywogaeth ar gyfer bywyd gwyllt gael ei ddiystyru chwaith, gan alw am ailblannu coed brodorol eraill yn lle'r coed ynn fydd yn cael eu cwympo.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio'n agos gyda CNC i sefydlu Grŵp Clefyd Coed Ynn.

"Ry'n ni'n datblygu'r grŵp yma i drafod a chyfathrebu'r ymchwil ddiweddara', opsiynau rheoli a chynnydd y clefyd yng Nghymru a gweddill y DU."

Fyddan nhw hefyd yn cyfrannu at gynllun gan y Cyngor Coed, sy'n amlinellu ffyrdd y gall awdurdodau lleol helpu reoli'r clefyd.

Mae disgwyl i'r cynllun gael ei lansio yng Ngerddi Botaneg Cymru yn Sir Gaerfyrddin ar ddiwedd mis Mawrth.