CPD Bae Colwyn am wneud cais i ymuno â Chynghrair Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn wedi penderfynu gwneud cais swyddogol i ddychwelyd i chwarae yng nghynghreiriau pêl-droed Cymru.
Mewn cyfarfod nos Fawrth, fe bleidleisiodd rhanddeiliaid y clwb o blaid gwneud cais i ymuno â phyramid Cymru y tymor nesaf.
Mae Bae Colwyn wedi bod yn chwarae ym mhyramid Lloegr ers degawdau, ond oherwydd trafferthion ariannol dywedodd y clwb nad oedd modd iddynt barhau i fod yn gystadleuol ar eu lefel bresennol.
Dywedodd datganiad gan y clwb: "Bydd cais yn cael ei gyflwyno i Gymdeithas Bêl-droed Cymru wythnos nesaf, ac rydyn ni'n gobeithio gwybod ar ba lefel bydd y clwb yn chwarae erbyn 29 Mawrth."
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi derbyn cais am ymateb.
'Goroesi' sydd bwysicaf
Roedd gan bob un o randdeiliaid y clwb un pleidlais am bob cyfran yn eu meddiant.
Cafwyd 91,600 pleidlais o blaid ymuno â chynghrair Cymru a 55,624 o blaid aros yn system Lloegr ond ar gyllideb is.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Bill Murray: "Y peth pwysicaf yw bod y clwb yn goroesi, a rydw i'n falch ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad, sydd yn fy marn i, am roi'r cyfle gorau i ni wneud hynny.
"Y dasg gyntaf i ni yw canolbwyntio ar yr hyn sy'n weddill o'r tymor hwn, cyn dechrau meddwl o ddifrif am gynllun i helpu'r clwb symud yn ei flaen."
Fe wnaeth Bae Colwyn wrthod ymuno ag Uwch Gynghrair Cymru pan gafodd honno ei sefydlu ym 1992 gan barhau i chwarae yng nghynghreiriau Lloegr.
Ar y pryd fe wnaeth FA Cymru eu gorfodi i chwarae eu gemau cartref dros y ffin am dair blynedd tan iddyn nhw ennill eu hachos yn yr Uchel Lys i gael chwarae eu gemau cartref nol yng Nghymru.
Clwb yn 'gyndyn' o symud
Yn ôl datganiad gan y clwb ym mis Chwefror, mae'r cadeirydd a'r rheolwr yn cytuno bod eu "calonnau eisiau aros yn Lloegr, ond eu pennau'n eu hannog i fynd yn ôl i bêl-droed Cymreig lleol ac ailadeiladu".
Er mwyn parhau i fod yn gystadleuol ar eu lefel bresennol, roedd angen i'r clwb gasglu £100,000 yn fwy bob blwyddyn.
Dywedodd swyddog y wasg CPD Bae Colwyn, Tim Channon, fod y sefyllfa ariannol wedi bod yn gwaethygu ers blynyddoedd oherwydd diffyg cefnogaeth a chystadleuaeth gyda Chlwb Rygbi RGC.
Ychwanegodd y datganiad hwnnw eu bod yn "gyndyn" o symud, ond y byddai parhau fel hyn yn arwain at ddirwyn y clwb i ben o fewn dwy flynedd.
'Penderfyniad siomedig'
Mae Emyr Owen, cefnogwr CPD Bae Colwyn, yn siomedig gyda'r penderfyniad i ddychwelyd i gynghreiriau Cymru.
Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf fod diffyg torfeydd wedi bod yn broblem yn ddiweddar ond nad yw'n gweld hynny'n gwella: "Dwi ddim yn gwybod pa adran bydda nhw'n cychwyn.
"Fyswn i'n meddwl y bydda nhw'n dechrau yn isel - wedyn os ydyn nhw'n bwriadu mynd yn eu blaenau yn ariannol 'dy nhw ddim gwell allan," meddai.
"Mae pawb yn sbïo ar Gaernarfon, maen nhw wedi gwneud yn arbennig, y torfeydd ma' nhw'n cael. Ond nhw 'di'r uni glwb yng Nghynghrair Cymru sy'n cael y torfeydd i allu cynnal clwb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019