Penderfyniad i uno ysgolion Cymraeg Powys wedi'i ohirio
- Cyhoeddwyd

Y bwriad yw uno'r ddwy ysgol mewn adeilad newydd ar safle Ysgol Dyffryn Banw
Mae'r penderfyniad i gau dwy ysgol Gymraeg ym Mhowys, gyda'r bwriad o greu un ysgol newydd yn yr ardal, wedi cael ei ohirio tan fis Ebrill.
Roedd y trafodaethau ddydd Mawrth ymysg aelodau o gabinet Cyngor Powys yn cynnwys cau Ysgol Gynradd Dyffryn Banw yn Llangadfan ac Ysgol Llanerfyl.
Y bwriad fyddai agor ysgol Gymraeg newydd ar safle Ysgol Dyffryn Banw erbyn Medi 2020.
Mae dogfen ar yr ailstrwythuro, dolen allanol yn dweud y byddai cau'r ysgolion a chreu un safle newydd yn arbed bron i £50,000 y flwyddyn.

Fe fyddai cymeradwyo'r cynnig yn arwain at gau'r ysgol yn Llanerfyl
Mae hefyd yn dweud y byddai'r ysgol newydd yn rhoi "cyfleoedd gwell i ddisgyblion" yr ardal o fod yn rhan o ysgol fwy, yn lleihau llefydd ysgol gwag yn yr ardal ac yn galluogi i wasanaethau meithrin fod ar yr un safle.
Cafwyd 250 o ymatebion i ymgynghoriad ar y cynllun, ac fe wnaeth 83% gytuno mai'r ffordd orau ymlaen oedd uno'r ysgolion.
Yn dilyn cyfarfod ddydd Mawrth daeth cadarnhad fod y penderfyniad wedi'i ohirio tan fis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018
- Cyhoeddwyd4 Medi 2017