'Diffyg arweiniad' ar gyfer ceir trydan

  • Cyhoeddwyd
Car trydan yn cael ei bweruFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £2 filiwn i wella'r seilwaith pwyntiau gwefru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am fod yn "araf wrth ddangos arweiniad" o ran gwella'r ddarpariaeth sydd ar gyfer ceir trydan.

Yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol mae angen "newidiadau sylweddol" er mwyn sicrhau y gallai Cymru elwa o'r cynnydd yn nefnydd ceir trydan.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £2 filiwn i wella'r seilwaith pwyntiau gwefru, ond mae'r Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cwestiynu a yw hynny'n ddigon.

Yn ôl canfyddiadau cychwynnol ymchwiliad gan y pwyllgor maen nhw'n dweud eu bod am wybod "beth mae Gweinidogion yn ei wneud i annog buddsoddiad gan y sector preifat, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig?"

Wrth gyhoeddi casgliadau cychwynnol dywed y pwyllgor eu bod yn awyddus i glywed gan ddefnyddwyr cerbydau, cyflenwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: "Mae'n amlwg o'n trafodaethau cychwynnol fod y seilwaith cerbydau trydan yng Nghymru yn gyfyngedig ac y byddai'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chynnydd sylweddol yn y defnydd ohono.

"Credwn fod diffyg arweiniad yn hyn o beth gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

"Wrth nodi ein canfyddiadau cychwynnol, rydym yn gobeithio dechrau sgwrs o ddifrif rhwng y Llywodraeth, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yng Nghymru ar y darlun o ran cerbydau trydan yng Nghymru yn y dyfodol, a beth y byddai ei angen i'w gyflawni."

Fe fydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddant yn ystyried cynnwys adroddiad y pwyllgor ac yn ymateb yn llawn maes o law.

"Yn y cyfamser, mae ein ffocws ar gydweithio gyda'r sector gyhoeddus a'r sector preifat er mwyn penderfynu ar y ffordd orau i fuddsoddi mewn seilwaith newydd, ac o ran defnyddio arian cyhoeddus yn ddoeth er mwyn ymyrryd pan fod y farchnad y methu."