Adam Price: 'Mark Drakeford yn gelwyddgi neu'n ffŵl'

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Roedd penderfyniad Jeremy Corbyn i gefnogi pleidlais arall yn gwbl oportiwnistaidd, yn ôl Mr Price

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o fod yn "gelwyddgi neu'n ffŵl" os nad yw'n credu fod Jeremy Corbyn wedi twyllo'r cyhoedd wrth drafod refferendwm arall.

Daeth sylwadau Adam Price yn ystod sesiwn holi yn y Cynulliad ddydd Mercher, y sesiwn gyntaf ar ôl i Dŷ'r Cyffredin wrthod cytundeb Brexit Theresa May am yr eildro.

Roedd Mr Price yn gofyn pam nad oedd Llywodraeth Cymru wedi crybwyll refferendwm arall yn eu datganiad ddydd Llun.

Wrth ymateb, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod y sylwadau yn "hynod o amharchus".

Yn ôl Mr Price: "Mae hi'n eithaf amlwg bellach fod penderfyniad Jeremy Corbyn i gefnogi pleidlais y bobl yn gwbl oportiwnistaidd ac yn twyllo'r bobl."

Ychwanegodd: "Os nad ydych chi'n cytuno gyda hynny prif weinidog, rydych chi un ai'n gelwyddgi neu'n ffŵl."

Fe wnaeth y blaid Lafur Brydeinig gyhoeddi ym mis Chwefror y byddai'n cefnogi refferendwm arall er mwyn osgoi Brexit "niweidiol" y Ceidwadwyr.

'Dylai wybod yn well'

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn credu bod dal modd sicrhau cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd lle fyddai'r DU yn parhau i fanteisio ar yr undeb tollau a'r farchnad sengl.

"Pam fod arweinydd Plaid Cymru yn ceisio tanseilio'r trafodaethau gyda'r fath o sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yma heddiw?"

"Rydw i'n dibrisio'r sylwadau yn llwyr, dylai wybod yn well."

Cyn i Mr Price allu ymateb fe wnaeth y Llywydd, Elin Jones, ymyrryd drwy ddweud nad yw sylwadau sarhaus yn dderbyniol yn y siambr.