Etholiad yn 'llawer mwy tebygol' yn ôl ASau Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai ASau'n credu fod etholiad cyffredinol yn fwy o bosibilrwydd

Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi dweud wrth BBC Cymru y gallai methiant diweddaraf Theresa May i ennill pleidlais ar ei chytundeb Brexit arwain at etholiad cyffredinol.

Daeth sylwadau David Davies, Simon Hart a Glyn Davies ar ôl i Dŷ'r Cyffredin wrthod y cytundeb am yr eildro, a hynny o fwyafrif o 149 o bleidleisiau.

Yn hwyrach ddydd Mercher, bydd Aelodau Seneddol yn cael cyfle i bleidleisio ar y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Yn dibynnu ar y canlyniad fe allan nhw hefyd gael cyfle i bleidleisio dros ymestyn y broses Brexit ddydd Iau.

Yn ôl yr amserlen bresennol mae disgwyl i Brydain adael yr UE ar y 29 Mawrth.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ei bod hi "wedi canu" ar gytundeb Llywodraeth y DU gyda Brwsel.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Davies bod "etholiad cyffredinol yn llawer mwy tebygol"

Yn siarad wedi'r canlyniad dywedodd aelod seneddol Ceidwadol Mynwy, David Davies - sydd o blaid Brexit ac a bleidleisiodd dros y cytundeb - bod etholiad cyffredinol yn "llawer mwy tebygol nag yr oedd ddoe".

"Dydw i ddim yn dweud ei fod yn mynd i ddigwydd, ond yn amlwg os ydy llywodraeth yn methu llwyddo ar yr union bwnc y cafodd ei hethol i'w ddatrys yn yr etholiad diwethaf mae hynny'n ein rhoi ni i gyd mewn sefyllfa anodd," meddai/

Fe wnaeth Mr Davies ganmol y prif weinidog am ei gwaith yn cyrraedd cyfaddawd a galwodd ar ddwy ochr y drafodaeth i oedi ac ystyried.

"Y bobl sy'n fy mhoeni i ydy'r rhai o fewn i'r Cabinet a rhai gweinidogion eraill sydd wedi tanseilio'r broses negydu drwy alw am dynnu nôl Erthygl 50.

"Mae'n rhaid gallu cerdded i ffwrdd mewn unrhyw broses negydu ac os nad ydy pobl yn fodlon gwneud hynny allwn ni ddim trafod."

Mae Simon Hart yn gobeithio y bydd pleidlais ar ei gynnig yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr AS Simon Hart mae "popeth yn bosib o ganlyniad i'r bleidlais"

Dywedodd Mr Hart, aelod seneddol Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro: "Yn syml mae unrhyw ganlyniad nawr yn bosib - o gael cytundeb i beidio cael cytundeb, i gytundeb ar ôl oedi, i gwymp y Prif Weinidog, i gwymp y llywodraeth, i etholiad.

"Mae popeth yn bosib o ganlyniad i'r bleidlais heddiw."

Dywedodd aelod seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn Glyn Davies taw un posibilrwydd yn unig oedd etholiad cyffredinol o hyd - ond bod hyn yn fwy tebygol nag yr oedd.

Yn dilyn y bleidlais dywedodd Theresa May y byddai cyfle nos Fercher i Aelodau Seneddol bleidleisio ar y cwestiwn a ddylai Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ai peidio.

Fe gyhoeddodd hi hefyd y byddai gan aelodau seneddol Ceidwadol bleidlais rydd.

Refferendwm arall?

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns nad oedd am gadarnhau sut y byddai e'n pleidleisio achos bod gwelliannau'n debygol o ddigwydd, a allai ddylanwadau ar union eiriad y cynnig.

Ond galwodd ar i'w gyd-aelodau "ddod-ynghyd er lles y wlad".

Awgrymodd hefyd efallai nad oedd cytundeb y Prif Weinidog yn farw wedi'r cyfan a'i fod yn credu y gallai fod "mwy o droeon i ddod".

Dywedodd Mark Drakeford bod yr amser wedi dod i "gael gwared ar y bygythiad o adael heb gytundeb ac ymestyn Erthygl 50".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts bod yr amser wedi dod am refferendwm arall.

"Rhoi'r gair olaf ar ein dyfodol i'r bobl ydy'r unig ateb sydd ar ôl," meddai.