Dechrau'r gwaith adeiladu ar gynllun £7m ym Mhentywyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau ar gynllun gwerth £7m i ddenu mwy o dwristiaid i ardal Pentywyn, Sir Gâr.
Mae'r cynllun yn cynnwys amgueddfa Traeth y Gwibwyr newydd, eco-gyrchfan sydd â hostel 42 gwely a chyfleusterau i gynnal digwyddiadau mawr a chwaraeon ar y tywod.
Y gobaith yw gorffen y gwaith adeiladu erbyn haf 2020 gan roi hwb o £3.3m y flwyddyn i economi'r rhanbarth.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole: "Mae hwn yn gynllun cyffrous a fydd yn tynnu sylw pawb at Bentywyn fel cyrchfan gwyliau mawr."
Cyngor Sir Gâr sy'n arwain y cynllun gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae'r datblygiadau ym Mhentywyn yn rhan o raglen ehangach y llywodraeth i greu 11 o gyrchfannau ymwelwyr yng Nghymru.
'Hwb mawr i Sir Gaerfyrddin'
Ychwanegodd Mr Dole y bydd y datblygiad yn darparu swyddi "mawr eu hangen" yn yr ardal.
Dywedodd Gweinidog Twristiaeth Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Elis Thomas: "Bydd prosiectau megis hyn ym Mhentywyn yn rhoi rhesymau cadarn i bobl ymweld â Chymru ac rwy'n falch bod y gwaith bellach wedi dechrau ar y datblygiad - bydd hyn yn rhoi hwb mawr i Sir Gaerfyrddin a de-orllewin Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2012