Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Maidstone

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair CenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam yn drydydd yn y Gynghrair Genedlaethol wedi buddugoliaeth hollbwysig yn erbyn Maidstone yn y Cae Ras.

Roedd y Dreigiau wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf ac roedd angen buddugoliaeth i gadw eu gobeithion o ddyrchafiad i Adran 2 yn fyw.

Ben Tollitt, yr asgellwr ar fenthyg o Tranmere Rovers, sgoriodd unig gôl y gêm wrth iddo grymanu'r bêl i gornel isaf y rhwyd wedi 49 munud.

Mae'r canlyniad yno yn golygu bod Maidstone yn parhau yn y tri isaf a bod Wrecsam bellach un pwynt tu ôl Leyton Orient sydd ar y brig.