Pryder am 'herio' pobl anabl am barcio â bathodyn glas

  • Cyhoeddwyd
Parcio anablFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dynes sydd â chyflwr niwro-gyhyrol wedi disgrifio'r profiad o gael ei herlid mewn maes parcio am fod rhywun yn credu ei bod wedi parcio mewn lle anabl heb fathodyn glas.

Mae Sara Flay o Gastell-nedd yn gorfod gwisgo brês ar ei choes ond dyw ei hanabledd ddim yn amlwg ar yr olwg gyntaf.

Dywedodd ei bod wedi stopio gwneud cais am fathodyn glas yn y gorffennol oherwydd y feirniadaeth roedd hi'n ei gael gan bobl oedd yn credu ei bod yn camddefnyddio'r system.

Mae gweinidogion a chynghorau Cymru wedi dweud eu bod y gweithio gyda grwpiau ac unigolion anabl i fynd i'r afael â digwyddiadau o'r fath.

'Profiad pryderus'

Bathodynnau glas sy'n galluogi i bobl ag anawsterau symudedd barcio yn nes i ble bynnag maen nhw eisiau mynd - fel arfer mewn mannau sydd wedi'u dynodi fel llefydd parcio anabl.

Mae'r meini prawf i gael bathodyn glas yn cynnwys bod ag anabledd, trafferthion symudedd neu drafferthion gweld, a cafodd ei ymestyn yn ddiweddar i gynnwys rhai pobl sydd ag anableddau dysgu neu ddementia.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy anabledd Sara Flay ddim yn amlwg ar yr olwg gyntaf

Dywedodd Ms Flay wrth raglen Sunday Politics Wales bod pobl yn aml yn syllu arni pan mae hi'n defnyddio ei bathodyn glas.

"Ar un achlysur fe wnaeth rhywun fy erlid ar draws maes parcio yn gweiddi arna i 'mod i'n camddefnyddio'r system, er bod gen i fathodyn glas ar fy nghar," meddai.

"Fe wnaeth y profiad yna fy ngwneud i'n bryderus.

"Roedd y digwyddiadau mor negyddol ar un pwynt fel y gwnes i stopio gwneud cais am fathodyn glas.

"Doedd gen i ddim bathodyn, er 'mod i'n dal yn anabl, ond roedd yn well gen i ddioddef na chael pobl yn bod yn gwneud sylwadau a bod yn gas tuag atai."

'Bygythiol'

Dywedodd prif weithredwr Anabledd Cymru, er bod nifer y bobl sy'n gymwys am fathodyn glas wedi'i ehangu, mae rhai yn dal i gredu mai dim ond pobl sy'n cael trafferth cerdded sy'n gymwys.

Ychwanegodd Rhian Davies bod nifer yn dweud wrth yr elusen am eu profiadau yn cael eu herio yn "fygythiol" a'u cwestiynu gan bobl ddiarth pam fod ganddyn nhw fathodyn glas.

"Mae angen trin digwyddiadau o'r fath yn fwy difrifol, achos mae nifer o bobl anabl yn dweud wrthym eu bod ofn defnyddio eu bathodynnau glas, neu hyd yn oed yn osgoi mynd allan o gwbl," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun bathodyn glas wedi'i ymestyn yn ddiweddar fel bod mwy o bobl yn gymwys

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y system bathodynnau glas yng Nghymru, ac awdurdodau lleol sy'n ei weithredu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "parhau i weithio â phobl anabl a grwpiau sy'n eu cynrychioli".

"Dylai unrhyw un sy'n wynebu ymosodiadau o'r fath fod yn ymwybodol y gallai hyn fod yn drosedd, ac felly ei adrodd i'r heddlu," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Wrth wneud cais am fathodyn glas mae pawb yn gorfod cwrdd â'r meini prawf, sy'n sicrhau bod y system ar gael i'r rheiny sy'n deilwng yn unig."

Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 11:00 dydd Sul 17 Mawrth.