Rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym ar hyd y wlad
- Cyhoeddwyd

Mae'r llifogydd yn parhau i achosi problemau yn ardal Wrecsam
Mae rhybuddion llifogydd dal mewn grym, tra bod y gwaith clirio yn parhau wedi tywydd garw dros y penwythnos.
Cafodd y glaw trwm effaith ar sawl rhan o Gymru gyda rhannau o Sir Conwy yn gweld y gwaethaf o'r llifogydd.
Fe ddisgynnodd gwerth mis o law yng Nghapel Curig - 136.6mm - mewn 24 awr.
Bu'n rhaid achub tri pherson o fan yn Llanrwst, ond yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae lefelau afonydd ar hyd y wlad bellach yn gostwng.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd pedwar person eu hachub gan y gwasanaethau brys yn ardal Wrecsam fore Sul ar ôl i ddau gerbyd fynd yn sownd mewn llifogydd.
Mae sawl rhan o'r A470 wedi bod ar gau yn ystod y dydd, gan gynnwys ffordd osgoi Dolgellau a Ffordd y Bont, Llanrwst.
Yn Sir Ddinbych mae'r A5 hefyd wedi bod ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4401, Corwen a'r A494, Ty'n-y-Cefn.

Gwaith pwmpio dŵr yn Llanrwst ddydd Sadwrn
Bu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn delio â 40 adeilad gafodd eu heffeithio gan lifogydd ym Mharc yr Eryr, Llanrwst brynhawn Sadwrn.
Cafodd criw tân ac uned amgylcheddol arbenigol hefyd ei ddanfon i Fetws-y-Coed mewn ymateb i drafferthion yno.
O ganlyniad i'r gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn, roedd dros 700 o adeiladau mewn rhannau o dde Cymru a Rhuthun, yn Sir Ddinbych heb gyflenwad trydan.

Roedd yr Afon Clwyd wedi gorlifo bore dydd Sul
Dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Mae'r sefyllfa yn gwella ac rydyn ni'n gobeithio gallu cael gwared â rhan fwyaf o'r rhybuddion llifogydd wrth i'r dydd fynd yn ei flaen.
"Nid ydyn ni'n disgwyl gweld llawer o law dros y 48 awr nesaf ac mae lefelau'r afonydd yn parhau i ddisgyn," meddai.
"Yn anffodus mae rhai cartrefi wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd... mae'n brofiad anodd iawn ac mae digon o gyngor ar ein gwefan ar sut i ymateb i lifogydd, dolen allanol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019