Emiliano Sala: Galw am ymchwiliad i gyfres o hediadau
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar y cyrff sy'n rheoleiddio'r diwydiant awyrennau i ymchwilio i gyfres o hediadau yn ystod yr wythnosau cyn marwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala.
Mae'r Gymdeithas Siartr Awyr wedi dweud wrth BBC Cymru bod sail i ymchwilio i hediadau eraill oedd yn gysylltiedig â'r trefniadau yn ystod Rhagfyr ac Ionawr er mwyn hwyluso trosglwyddiad y chwaraewr o Nantes i Gaerdydd.
Mae'r rhain yn cynnwys teithiau gan Sala, ei asiant, swyddogion Clwb Pêl-droed Caerdydd ac eraill rhwng Ffrainc a Chymru yn ystod mis Rhagfyr ac Ionawr.
Disgynnodd yr awyren oedd yn cludo Sala, 28, i'r môr ar 21 Ionawr wrth iddo deithio i'w sesiwn hyfforddi gyntaf gyda'r Adar Gleision.
Mae'r AAIB, y corff sy'n ymchwilio i ddamweiniau awyr, yn edrych ar amgylchiadau'r digwyddiad ar hyn o bryd.
Cafodd corff Sala ei dynnu o'r awyren oedd ar wely'r môr ddechrau Chwefror, ond mae'r peilot David Ibbotson yn parhau i fod ar goll.
Yr asiant pêl-droed Willie McKay a'i deulu oedd yn gyfrifol am drefnu a thalu am yr hediad hwn yn ogystal â hediadau eraill.
'Cynnydd mewn teithiau anghyfreithlon'
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, rhybuddiodd Dave Edwards, prif swyddog gweithredol y Gymdeithas Siartr Awyr, bod cynnydd wedi bod yn nifer y teithiau siartr anghyfreithlon a bod hyn yn tanseilio cwmnïau cyfreithlon a hefyd yn peryglu bywydau teithwyr - hynny yw, teithiau heb drwydded briodol.
Ychwanegodd bod eu pryderon am y sector wedi dechrau tua saith mlynedd yn ôl a'u bod yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd i drafod y mater.
"Mae'r asiant pêl-droed wedi dweud eu bod wedi talu am gyfres o deithiau," dywedodd Mr Edwards.
"Rydyn ni wedi gwneud rhywfaint o ymchwil i'r holl hediadau hynny ac rydym yn pryderu fwy nag erioed fod cwestiynau'n codi amdanyn nhw i gyd.
"Dyma ry'n ni wedi gwthio'r gyda'r awdurdod hedfan a'r asiantaeth yn Ewrop oherwydd bod yr awyren wedi dechrau ei thaith yn Ffrainc.
"Mae digon o dystiolaeth i ni wthio'r awdurdodau i wneud ymchwiliad llawn i'r cefndir a sicrhau eu bod yn cydymffurfio."
Mae'r Gymdeithas Siartr Awyr wedi cynnal ei hymchwil ei hun gyda chymorth asiantaeth rheoli traffig awyr Ewrop ac wedi sefydlu pwy oedd y cwmnïau a'r peilotiaid amrywiol oedd yn gysylltiedig â'r hediadau'n ymwneud â chytundeb Sala.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â phawb dan sylw a'u gwahodd i ymateb i'r cwestiynau gafodd eu codi gan y gymdeithas.
Yn ei adroddiad dros dro, dywedodd y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr, yr AAIB, nad oedd gan Mr Ibbotson drwydded fasnachol, a bod yn rhaid iddo hedfan pobl yn Ewrop ar sail rhannu costau yn unig.
Mae'r gymdeithas yn parhau i ymchwilio ac mae disgwyl y bydd yn cyhoeddi'r canfyddiadau flwyddyn nesaf.
'Digwydd pob dydd'
Ychwanegodd Mr Edwards bod y digwyddiad hwn wedi tynnu sylw at hediadau siartr yn gyffredinol.
"Mae gennym dystiolaeth am deithiau eraill sy'n digwydd pob dydd," meddai.
Dywedodd yr Awdurdod Hedfan Sifil: "Gan fod yr AAIB yn cynnal ymchwiliad ar hyn y bryd, mi fyddai'n amhriodol i wneud sylw ar hyn o bryd. Mi fyddan ni'n cynorthwyo'r ymchwiliad yn ôl yr angen."
Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan Mr McKay.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019