Trenau Cymru: 'Pwyntio bys yn helpu neb' medd ACau

  • Cyhoeddwyd
Tren Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu Llywodraeth y DU am beidio â buddsoddi mwy yn y rhwydwaith drenau

Mae teithwyr yn cael eu "hanghofio" wrth i gwmnïau trenau a gwleidyddion feio'i gilydd am broblemau ar y rheilffyrdd, yn ôl adroddiad.

Nid yw "pwyntio bys yn y sefyllfaoedd hyn yn gwneud unrhyw les", yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, yr AC Ceidwadol Russell George.

Fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru atal nifer o wasanaethau Cymru a'r Gororau am gyfnod yn fuan ar ôl olynu Trenau Arriva Cymru.

Cyfeiriwyd at ddifrod Storm Callum fel prif reswm am leihau gwasanaethau ac fe wnaeth y cwmni hefyd feirniadu diffyg gwaith cynnal a chadw gan ei ragflaenwyr - honiad mae Arriva wedi'i wrthod yn chwyrn.

Mae Llywodraeth Cymru, sydd bellach yn gyfrifol am ryddfraint Cymru a'r Gororau, wedi rhoi'r bai ar weinidogion y DU am beidio â buddsoddi digon yn y rhwydwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi dweud mai difrod Storm Callum fu'n bennaf gyfrifol am leihau'r nifer o wasanaethau

Dywedodd yr adroddiad gan y pwyllgor nad oedd modd rhoi'r bai i gyd ar y tywydd eithafol am yr oedi a'r amhariad i deithwyr oedd yn defnyddio'r gwasanaeth.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Mr George: "Dyw pwyntio bys yn y sefyllfaoedd hyn ddim yn gwneud unrhyw les a chredwn fod angen i bob un sy'n rhan o hyn dynnu at ei gilydd i ddarparu'r gwasanaeth o safon mae teithwyr Cymru yn eu haeddu."

Ychwanegodd ei fod hi'n broblem "tipyn mwy cymhleth" na sgil-effeithiau'r tywydd garw a thanfuddsoddi dros y blynyddoedd yn unig.

'Llai na'i siâr o gyllid'

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth bod Cymru wedi derbyn llai na'i siâr o arian i wella'r rheilffordd a'r rhwydwaith gan Lywodraeth y DU.

Nododd yr adroddiad fod gwariant i ehangu'r rheilffyrdd yn parhau'n bryder i'r pwyllgor.

Dywedodd ACau y gallai mwy fod wedi ei wneud yn gynt i wella'r nifer o drenau a'u safon.

Disgrifiad o’r llun,

Yr AC Ceidwadol Russell George yw cadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau

Yn ôl yr adroddiad: "Mae yna'n amlwg anawsterau yn y berthynas rhwng y DU a Llywodraeth Cymru.

"Ond yn anffodus, y teithwyr sy'n defnyddio'r rheilffordd sy'n colli allan. Credwn fod buddiannau'r teithwyr wedi cael eu hanghofio mewn trafodaethau rhwng y llywodraethau."

Mae Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.