Aelod o fand, fel Mam a Dad

  • Cyhoeddwyd

Mae perfformio yn y gwaed i rai pobl, medden nhw.

Ac mae hyn yn sicr yn wir i rai o artistiaid y sîn gerddoriaeth Gymraeg, sydd wedi dilyn ôl troed eu rhieni, ac wedi ffurfio band. Dyma ddetholiad:

Ffynhonnell y llun, BBC / Isaac

Ar ôl ei chyfnod â'r band gwerinol Sidan, newidiodd Caryl Parry Jones drywydd gan ymuno ag Injaroc am ychydig fisoedd yn 1977, oedd hefyd yn cynnwys Geraint Griffiths, Cleif Harpwood ac Endaf Emlyn. Wedi hynny, roedd yn aelod o Bando ac yn canu gyda'i band ei hun, Caryl a'r Band. Mae ei merched, Miriam, Elan a Greta wedi etifeddu dawn cerddorol a llais hyfryd eu Mam - a'u tad, Myfyr Isaac, sy'n gitarydd medrus - ac yn canu caneuon â harmonïau clos, o dan yr enw Isaac.

Ffynhonnell y llun, Getty / BBC

Roedd Owen Powell (llun uchaf, canol) yn aelod o'r band Catatonia, a gafodd ei ffurfio ddechrau'r 1990au. Cafodd y band lwyddiant rhyngwladol gyda chaneuon fel 'Road Rage' a 'Mulder and Scully'. Cyn hynny, roedd yn aelod o'r band Crumblowers, gyda'i frawd Lloyd. Mae mab Owen, Herbie, yn aelod o'r band Y Sybs (llun gwaelod, ar y dde), sef enillwyr Brwydr y Bandiau 2018 - dechrau da! Mae Osian (llun gwaelod, ail o'r dde) hefyd yn fab i gyn-aelod o'r Crumblowers, sef Owen Stickler. Dim byd fel ei gadw'n y teulu!

Rhys Harris oedd prif leisydd y band pync a sefydlwyd yn Ysgol Ystalyfera yn 1977, Y Trwynau Coch. Bellach, mae tri o blant Rhys - Gwilym, Elan a Marged - wedi sefydlu'r band Plu, sydd yn canu amrywiaeth o ganeuon gwerin traddodiadol a gwreiddiol.

Cafodd Plethyn ei ffurfio ddiwedd yr 1970au, ac mae llais hyfryd Linda Griffiths yn amlwg yn eu caneuon. Bellach, mae tair merch Linda - Gwenno, Mari a Lisa - wedi sefydlu eu triawd eu hunain, Sorela, gyda'u lleisiau'n asio'n berffaith.

Mae Steve Eaves wedi bod yn perfformio ers degawdau - yn unigol a gyda'i fand, Rhai Pobl. Mae wedi pasio ei ddawn cerddorol ymlaen i'w ferched - mae Lleuwen newydd ennill y wobr am y gân Gymraeg wreiddiol orau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019 am ei chân Bendigeidfran, a Manon (ar y dde) yn aelod o'r band Blodau Gwylltion.

Ffynhonnell y llun, Gwerinos / BBC

Cafodd y band Gwerinos ei sefydlu ddiwedd yr 1980au. Er fod aelodau'r band wedi amrywio dros y blynyddoedd, un o'r aelodau cyson yw Ywain Myfyr (llun uchaf, ar y dde) sydd yn canu'r gitâr, bodhrán ac organ geg. Mae ei fab, Ifan Ywain, yn gitarydd â'r band roc llwyddiannus Sŵnami (llun gwaelod, ail o'r dde). Ers ennill Brwydr y Bandiau 2011, mae'r band wedi mynd o nerth i nerth gan ennill gwobrau lu.

Delyth Jenkins oedd y delynores gyda'r band gwerin Cromlech o ardal Abertawe, ddiwedd yr 1970au, cyn mynd ymlaen i ffurfio'r band Aberjaber. Mae ei merch, Angharad, wedi dilyn ôl troed gwerinol ei mam, ac yn canu'r ffidil â'r bandiau Calan a Pendevig. Mae'r ddwy bellach hefyd yn chwarae gyda'i gilydd o dan yr enw DnA.

Hefyd o ddiddordeb: