Ymestyn penwythnos Tafwyl yn y castell am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae Tafwyl wedi cyhoeddi y bydd noson ychwanegol o gerddoriaeth yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd am y tro cyntaf eleni.
Y llynedd, fe ddenodd yr ŵyl gerddorol Gymraeg fwy na 40,000 o bobl - y nifer fwyaf ers ei sefydlu 'nôl yn 2006.
Eleni, mae'r trefnwyr - Menter Caerdydd - wedi ymuno â chwmni PYST i gyflwyno noson arall o gerddoriaeth, celfyddydau a bwyd stryd yn y castell ar y nos Wener, 21 Mehefin.
Mae Tafwyl wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, a gan sefydliadau eraill fel FOR Cardiff, Cyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd yr ŵyl yn parhau i fod am ddim i'r cyhoedd.
Ymhlith y perfformiadau ar y brif lwyfan nos Wener bydd Gwenno, Lleuwen a'r Band, Adwaith, Serol Serol a DJ Huw Stephens.
Mae llwyfan Y Sgubor - sy'n cael ei guradu gan yr artist gweledol, Swci Delic - yn cynnwys perfformiadau gan Y Niwl, Zabriniski, Bitw, Ani Glass a DJ Toni Schiavone.
Dywedodd Llinos Williams ar ran Menter Caerdydd: "Mae gymaint o artistiaid cyffrous o gwmpas ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni ychwanegu noson o gerddoriaeth eleni!
"Mae apêl yr ŵyl wedi bod yn tyfu ers blynyddoedd, felly mae'n braf gallu rhoi cyfle i fwy o bobl ddod i brofi'r digwyddiad unigryw hwn."
O'r Mochyn Du i'r castell
Cafodd Tafwyl ei sefydlu gan Fenter Caerdydd er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r iaith yn y ddinas.
Roedd yn arfer cael ei chynnal yng ngardd tafarn y Mochyn Du ger Gerddi Soffia, ond symudodd i'r castell yn 2012 wrth i faint ac uchelgais y fenter gynyddu.
Mae Tafwyl 2019 yn dechrau ar 15 Mehefin gyda'r Ŵyl Ffrinj, gyda'r penwythnos yng Nghastell Caerdydd yn digwydd rhwng nos Wener, 21 Mehefin a dydd Sul, 23 Mehefin.
Bydd yr holl artistiaid yn cael eu cyhoeddi yn fuan.