Dim Ramsey ar gyfer gêm Slofacia

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Aaron Ramsey yn symud i Juventus ddiwedd yr haf

Mae rheolwr Cymru, Ryan Giggs, wedi cadarnhau fod Aaron Ramsey wedi gorfod tynnu yn ôl o garfan Cymru gydag anaf.

Mewn cynhadledd i'r wasg fore Sadwrn, dywedodd Giggs y bydd Ramsey yn dychwelyd i'w glwb Arsenal er mwyn cael triniaeth.

Cafwyd cadarnhad hefyd fod Gareth Bale yn holliach a'i fod ar gael i chwarae.

Bydd tîm pêl-droed Cymru'n herio Slofacia yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn dydd Sul yn y gyntaf o'u gemau rhagbrofol ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2020.

Profi'r wefr eto

Roedd Ramsey, 28 oed, yn bresennol yn ystod buddugoliaeth Cymru dros Trinidad a Tobago mewn gêm gyfeillgar yn gynharach yn yr wythnos.

"Yn sicr mae'n golled, ond mae ganddon ni gynllun arall", meddai Giggs, "ac rydyn ni wedi bod yn gweithio ar hynny yn ystod yr wythnos."

"Roedd e mewn hwyliau da, ond mae hyn nawr yn rhoi cyfle i rywun arall"

Yn y cyfamser fe ddywedodd Gareth Bale ei fod e'n holliach a'i fod yn edrych ymlaen at yr ymgyrch hon gyda Chymru.

"Rydyn ni'n barod i roi'r cyfan unwaith eto", meddai, "ac rydyn ni eisiau chwarae yn y pencampwriaethau mawr a phrofi unwaith eto'r wefr rydyn ni wedi ei brofi gyda'n gilydd."

"Fe fyddwn ni'n anelu am frig y tabl, does dim rheswm na allwn ni ennill y grŵp".

""Mae'n rhaid i ni weithio'n galed fel tîm, i barhau i chwarae'n dda, a gwneud yn siwr ein bod yn ennill y gemau gartre allweddol".