Atal saethu ffesantod yn Neuadd Gregynog am y tro
- Cyhoeddwyd
Fe fydd saethu ffesantod ar dir Prifysgol Cymru yn cael ei atal am y tro wrth i swyddogion gynnal ymchwiliad.
Mae ffigyrau'n dangos bod 57,000 o ffesantod wedi eu rhyddhau yno er mwyn cael eu saethu er difyrrwch yn ystod y chwe blynedd diwethaf.
Mae'r Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon (LACS) wedi galw'r arfer i saethu ar dir Neuadd Gregynog ger y Drenewydd yn "ddychrynllyd" ac fe lansiodd y mudiad ymgyrch yn ei erbyn y llynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol nad ydy'r cytundebau na phrydlesu'n ymwneud â hawliau saethu yng Ngregynog wedi cael eu hadnewyddu am eu bod yn ail-edrych ar strwythur a threfniadau.
'Llusgo'n ôl gan draddodiad'
Dechreuodd LACS ymgyrch fis Tachwedd diwethaf, gyda llefarydd ar eu rhan, Chris Luffingham, yn dweud ei fod yn drueni bod y brifysgol yn parhau i fod yn gysylltiedig â'r arfer o "chwythu adar o'r awyr am adloniant".
Mae'r mudiad wedi galw ar y brifysgol i "fynd yr holl ffordd" a rhoi'r gorau i saethu ffesantod unwaith ac am byth.
"Dylai prifysgol fod yn flaengar, yn hytrach na chael eu llusgo'n ôl gan draddodiadau creulon," meddai Mr Luffingham.
Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth fod 57,000 o ffesantod wedi cael eu rhyddhau er mwyn eu saethu ers 2013.
Yn ogystal, cafodd 160 o anifeiliaid gwyllt - gan gynnwys llwynogod ac adar eraill - eu lladd gan giperiaid i gadw'r tir ar gyfer partïon saethu.
Yn ôl prif weithredwr LACS, Andy Knott: "Mae'n bosib saethwyr ffesantod wrthi nawr yn sgleinio eu drylliau yn y gobaith eu bod yn dychwelyd i Neuadd Gregynog pan ddechreuith y tymor saethu ym mis Hydref, gydag anogaeth gan amwysedd y brifysgol am ddyfodol gallu er difyrrwch ar ei thir."
Wrth ymateb dywedodd y Gynghrair Cefn Gwlad y dylai penderfyniad o'r fath fod yn seiliedig ar dystiolaeth.
Dywedodd llefarydd bod saethu sydd wedi ei reoli yn ffordd dda o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan gyfrannu at yr economi wledig, treftadaeth, diwylliant a'r iaith Gymraeg.
"Ni ddylai penderfyniad hanesyddol o'r fath fod yn gêm o rifau ond dylai fod yn seiliedig ar dystiolaeth a ffeithiau gwyddonol," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru: "Does dim cytundebau na phrydlesu'n ymwneud â hawliau saethu i Neuadd Gregynog wedi cael eu hadnewyddu gan y brifysgol am ein bod yn ail-edrych ar strwythur a threfniadau Neuadd Gregynog."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2018
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2017