Polisïau iechyd yn ganolog i ymgyrch Plaid Cymru yn 2021
- Cyhoeddwyd
Y gwasanaeth iechyd fydd maes y gad yn etholiad y Cynulliad ymhen dwy flynedd, yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru.
Yn ei haraith yng nghynhadledd wanwyn y blaid ym Mangor fe wnaeth Helen Mary Jones feirniadu perfformiad y blaid Lafur, gan gyfeirio at ffigyrau adrannau brys ysbytai yng Nghymru.
"Mae polisïau iechyd yn ganolog i'n llwybr i lywodraeth yn 2021", meddai.
Yn y cyfamser dywedodd arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts bod angen mynd i'r afael â'r "diffyg yn y ddarpariaeth ar gyfer carcharorion benywaidd yng Nghymru".
'Angen arweiniad'
Mae Plaid Cymru wedi bod yn cwrdd ar gyfer eu cynhadledd wanwyn yng nghanolfan gelfyddydau Pontio ym Mangor.
Dywedodd Ms Jones wrth y gynhadledd: "Rydym yn gwybod bod y Gwasanaeth Iechyd yma yn gweithio yn galed ond mae angen arweiniad arnynt".
"Plaid Cymru sy'n cynnig y gefnogaeth a'r weledigaeth ar gyfer cyflawni hyn", meddai.
"Rydyn ni wedi'n hymroi i hyfforddi a recriwtio 1,000 yn ychwanegol o feddygon a 5,000 o nyrsys, gyda pholisïau penodol i gyrraedd y targedau yna."
Wrth siarad â BBC Cymru cyn ei haraith, dywedodd Ms Jones y byddai Plaid Cymru yn "edrych ar sut allwn ni ddefnyddio polisïau cynllunio i leihau nifer y siopau bwyd cyflym sydd wedi eu lleoli yn agos at ysgolion."
"Dydyn ni ddim yn siarad am gau safleoedd sy'n bodoli, byddai hynny'n hollol annheg," meddai, "ond gallwch ddweud 'dim mwy na hyn a hyn o fewn hyn a hyn o fetrau o'r ysgol'."
"A gallwch ymestyn hynny'n raddol - mae gennym hyn a hyn o siopau bwyd cyflym yn barod yng nghanol y dre yma, rydym ni fel awdurdod lleol ddim yn teimlo bod angen mwy ohonynt."
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried cymryd camau tebyg yn y gorffennol.
Yn gynharach yn 2019 dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, nad yw hi'n glir iawn beth ydy'r sefyllfa gyfreithiol wrth ystyried hyn, ond mai'r farn yn gyffredinol ydy "nad oes gyda ni'r pwerau i gael ystyriaethau iechyd cyhoeddus yn rhan annatod o fesurau cynllunio, felly ni fyddwn ni'n gallu rheoli faint o'r math yma o siopau sydd yn cael eu hagor ger ysgolion, canolfannau hamdden neu ardaloedd eraill."
Dywedodd ar y pryd "ei fod yn credu bod hyn yn broblem".
Wrth agor sesiwn prynhawn olaf y gynhadledd ddeuddydd, canolbwyntiodd AS Meirionydd, Liz Saville Roberts, ei haraith ar garchardai a'r system gyfiawnder, gan ddweud fod 'na ddiffyg yn y ddarpariaeth ar gyfer carcharorion benywaidd yng Nghymru.
Fe wnaeth hefyd sôn am ddiffygion y gwasanaeth prawf sydd "wedi rhoi elw cyn diogelwch y cyhoedd" pan gafodd ei breifateiddio'n rhannol gan weinidogion y DU yn 2014.
Cafodd cynlluniau i ailwampio'r gwasanaeth prawf eu cyhoeddi'r llynedd, ac yn sgil hynny ni fydd gan Gymru unrhyw wasanaethau preifat pan fydd contractau yn dod i ben y flwyddyn nesaf.
Gan gyfeirio at y drwgdeimlad dros Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd wrth ymgyrchwyr Plaid Cymru "nawr yw ein hamser ni" oherwydd "ni all y llywodraeth lywodraethu ac ni fydd y Blaid Lafur yn gwrthwynebu".
"Beth oedd y caneuon a ganodd y Brexiteers ond y caneuon am freuddwydion ffug?
"Mae'n rhaid i ni fod yn feistri ein llong ein hunain," meddai, gan gyfeirio at nôd Plaid Cymru o annibyniaeth i Gymru yn y pen draw.
Roedd ganddi ganmoliaeth i Ewrop gan ddweud bod Cymru wedi cael help llaw ymarferol ganddi, gan ychwanegu fod Ewrop wedi cyfoethogi ein cymunedau a "chyfoethogi ein cyfleoedd i weithio, i fyw, i garu ".